Lluniau gan Chris Prichard

 

Ar ddechrau’r flwyddyn, mae’n braf edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r sleidiau yn y sioe sleidiau yma’n dangos gweithgareddau fydd yn digwydd ym mis Awst eleni – digwyddiadau “gwahanol”, cyffrous, llawn hwyl a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru!

Edrychwch ar y sleidiau eto a meddyliwch:

  • beth yw’r gamp ym mhob sleid?
  • ble mae’r gemau hyn yn digwydd tybed?

 Dyma gliwiau i chi:

  • Mae’r gemau hyn yn “wahanol”.
  • Maen nhw’n digwydd yng Nghymru bob dwy flynedd.
  • Mae pobl yn dod o bedwar ban y byd i gystadlu.
  • Maen nhw’n cael hwyl – llawer iawn o hwyl.

 Ewch i’r adran Atebion i gael mwy o wybodaeth.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
camp gêm neu weithgaredd corfforol sport
o bedwar ban y byd o bob rhan o’r byd from all corners of the world