Helo, Matt.
Dw i wedi penderfynu dysgu camp newydd eleni ac felly dw i wedi bod yn chwilio ar y we am gamp “wahanol”. Dw i wedi gweld fideo diddorol iawn o gêm newydd.
Y gamp ydy pêl-droed mewn sorb neu bêl-droed mewn swigen (yn Saesneg, zorb football neu bubble football) ac mae’n anhygoel!
Beth sy’n digwydd:
Mae dau dîm o bum person yn chwarae pêl-droed ond mae pob un yn “gwisgo” pêl fawr dryloyw – mae’n debyg bod strapiau tu mewn i’r bêl a rhaid ei gwisgo fel rycsac.
I ddechrau, mae’r timau’n sefyll yn eu haneri nhw o’r cae, yn wynebu’r bêl sydd ar ganol y cae. Pan fydd y chwiban yn canu, mae’r ddau dîm yn rhuthro tuag at ei gilydd ac yna maen nhw’n trio bwrw ei gilydd i’r llawr. (Hwyl!) Yna, maen nhw’n cicio’r bêl ac yn trio sgorio gôl – fel mewn gêm pêl-droed draddodiadol.
Ond, yn wahanol i gêm bêl-droed draddodiadol, does dim llawer o reolau – dim taflu’r bêl i mewn, dim camochri, dim cicio o’r gornel. Mae’n siŵr bod yna rai rheolau am ddiogelwch ond dw i ddim yn siŵr iawn beth ydyn nhw ar hyn o bryd.
Mae Alex wedi chwarae’r gêm yn barod ac mae’n dweud mai dyma’r gamp orau mae wedi cymryd rhan ynddi erioed. Roedd hi’n rholio ar hyd y llawr yn ystod y gêm, yn chwerthin ac yn sgrechian – ac yn ofni bod rhywun arall yn mynd i ddod ati hi i’w rholio hi drosodd ar y llawr. Roedd hi wrth ei bodd!
Yn ogystal â bod yn llawer o hwyl, mae’n ffordd dda iawn o gadw’n heini achos rhaid rhedeg o gwmpas a chwarae pêl-droed gan wisgo sorb.
Mae’n dweud ar y we bod clwb pêl-droed mewn sorb yn dechrau yn y ganolfan hamdden nos Wener nesaf. Wyt ti eisiau dod gyda fi? Bydd e’n llawer iawn o hwyl.
Os dwyt ti ddim yn siŵr, edrycha ar y fideo yma.
Camp gyffrous, anturus, llawn hwyl ar gyfer y dyfodol dw i’n meddwl.
Hwyl!
Rhys
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
sorb | pêl fawr dryloyw | zorb |
tryloyw | defnydd sy’n gadael i’r golau ddod drwyddo; defnydd rydych chi’n gallu gweld drwyddo | transparent |
camochri | sefyll yn y rhan anghywir o’r cae | off-side |