Dringo Bannau Brycheiniog? Yr olygfa o gopa’r Wyddfa? Aer y môr ar draethau’r Gŵyr? Ie, dyna rai o’r pethau sy’n gwneud Cymru yn wlad ddeniadol i ymwelwyr. Mae llawer o’r diolch am harddwch Cymru i’r Cyngor Cefn Gwlad. Nhw sy’n gyfrifol am gynnal prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a chyfleoedd hamddena awyr agored ar draws Cymru.
Ond nid hybu amgylchedd a thirwedd Cymru yn unig y mae’r Cyngor Cefn Gwlad. Mae’r ffordd y mae’r Cyngor yn gwneud yn siwr bod ganddo staff sy’n siarad Cymraeg yn dangos ei fod credu bod Cymraeg yn rhan werthfawr o’r profiad o fyw yng Nghymru. Nid rhywbeth i unigolion yw’r Gymraeg iddyn nhw, ond rhywbeth i bawb. I bawb sy’n byw yng Nghymru!
Mae gan y Cyngor ardaloedd cadwraeth ar draws Cymru mewn ardaloedd gwledig a diwydiannol yn ogystal â 13 o swyddfeydd. Mae dwy swyddfa gan gynnwys y brif swyddfa wedi’i lleoli ym Mangor, gyda swyddfeydd eraill yn Yr Wyddgrug, Dolgellau, Aberystwyth, Llandeilo, Abertawe, Doc Penfro, Llandrindod, Caerdydd, Bae Caerdydd, Y Drenewydd ac yn Y Fenni. Wrth gamu trwy ddrysau’r swyddfeydd hyn fe welwch fod y Gymraeg yn cael statws uchel iawn.
Tua 500 o staff
36% o staff yn rhugl yn y Gymraeg
30% yn ddysgwyr Cymraeg
Mae’r ffordd y mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn recriwtio staff yn dangos mor bwysig yw cynllunio gofalus wrth gynnig dewis iaith i’r cyhoedd.
Yn gyntaf, er mwyn sicrhau bod y swyddfeydd yn gweithio’n ddwyieithog, mae’n rhaid i bob aelod o staff gael rhywfaint o allu sylfaenol yn y Gymraeg.
Yn ail, mae’r Cyngor yn penderfynu pa fath o sgiliau Cymraeg, ac ar ba lefel sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Er enghrafft, mae sgiliau Cymraeg hyd at lefel benodol gan o leiaf un aelod o’r tîmau cadwraeth a’r tîmau gwarchodfeydd yn hanfodol.M ae disgwyl hefyd i staff y dderbynfa ymhob swyddfa fedru croesawu’r cyhoedd ac ateb y ffôn yn ddwyieithog.
Y mae hefyd yn penodi mwy o staff Cymraeg i weithio mewn swyddfeydd sydd mewn ardaloedd lle ceir canran uwch o siaradwyr Cymraeg.
Yn olaf, mae’r Cyngor yn rhan o gynllun cyffrous sy’n ceisio sicrhau staff dwyieithog i’r dyfodol, sef AmNawdd. Mae’r cynllun hwn yn cynnig nawdd i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau amgylcheddol yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynllun ar y cyd yw hwn gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghymru lle mae myfyrwyr yn cael nawdd yn ystod eu cwrs, ynghyd â lleoliad gwaith o bump wythnos gyda bwrsariaeth.
Mae’r cyfleoedd swyddi i siaradwyr Cymraeg yn eang felly ac yn cynnwys:
“Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn sefydliad mawr a mae gynnon ni tua 500 o staff yn gweithio trwy Gymru. Ein prif waith ydy edrych ar ôl yr amgylchedd a chefn gwlad Cymru,sef y petha naturiol o’n cwmpas. Fe allech chi ddweud bod y ffordd dan ni’n trio datblygu gallu ein staff i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd yn rhan o hyn. Dan ni’n edrych ar bethau o safbwynt Cymru gyfan – mae ‘na gysylltiad agos rhwng iaith a diwylliant, a’r amgylchedd.
“Does dim dwywaith bod ‘na brinder staff sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hynny’n amrywio o un ardal i’r llall. Dan ni’n rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg pan fyddwn ni’n recriwtio ond dan ni ddim yn disgwyl cael yr un sgiliau Cymraeg ar gyfer ein swyddfeydd ym Mhowys a Morgannwg Ganol ag y bydden ni ym Mangor, er enghraifft. Ond dan ni’n trio bod yn ymarferol ac yn bositif ar yr un pryd.
“Cael pum deg y cant o’n staff yn rhugl yn y Gymraeg ydy’r nod yn y tymor hir, ac dwi’n hyderus y gallwn ni wneud hynny. Trwy ddangos yn glir bod y Cyngor yn croesawu staff â phob lefel o sgiliau yn y Gymraeg, a chynnig hyfforddiant i’r staff sy gynnon ni, mi fydd hynny’n rhoi hwb sylweddol i allu’r Cyngor i gynnal ei fusnes trwy’r Gymraeg.”
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Hybu | gwella, helpu | to promote |
Cadwraeth | gofalu, gwarchod,cadw | gofalu, gwarchod,cadw |
Gwarchodfeydd | lle i warchod/ ofalu am | conservancy |
Nawdd | help ariannol | sponsor |
Bwrsariaeth | ysgoloriaeth/ cael arian | bursary |
Gweinyddol | gwaith swyddfa | administrative |