Sawl gwaith ydych chi wedi clywed bod dysgu a siarad Saesneg yn bwysig? Byddai pobl yn arfer dweud ei bod yn rhaid cael Saesneg ‘i ddod ymlaen yn y byd’. Ond pa mor wir ydy hynny erbyn heddiw tybed?
Dyma fap sy’n dangos ble mae prif ieithoedd y byd yn cael eu siarad.
Dosraniad Ieithoedd (swyddogol neu iaith gyntaf) 2010
Iaith |
Nifer o Siaradwyr (miliynau) |
Mandarin | 955 |
Sbaeneg | 403 |
Saesneg | 360 |
Hindi | 310 |
Arabeg | 295 |
Portiwgeeg | 215 |
Rwseg | 155 |
Siapaneeg | 125 |
Almaeneg | 89 |
Na, dydy Saesneg ddim ar ben y rhestr a does dim sôn am Gymraeg! Iaith leiafrifol ydy’r Gymraeg, iaith sy’n cael ei siarad gan leiafrif poblogaeth y wlad. Ond coeliwch neu beidio, mae 60 o ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop yn unig (heb sôn am weddill y byd) gyda dros 40 miliwn o bobl yn eu siarad.
Iaith Geltaidd ydy’r Gymraeg. Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae’r ieithoedd Celtaidd yn cael eu rhannu yn Frythoneg – Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg – ac Oideleg, sef Gaeleg, Gwyddeleg a Manaweg. Y gwledydd sy’n cael eu hadnabod fel "gwledydd Celtaidd" heddiw ydy’r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop – yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw a Llydaw.
IAITH |
NIFER Y SIARADWYR (2011) |
Cymraeg |
562,000 |
Gwyddeleg |
94,000 |
Llydaweg |
250,000 |
Gaeleg |
58,000 |
Cernyweg |
1,700 |
Manaweg |
1,900 |
Mae llawer o eiriau tebyg yn yr ieithoedd Celtaidd e.e.
Eiriau tebyg yn yr ieithoedd Celtaidd | |||||||||||
Cymraeg |
un |
dau |
tri |
naw |
deg |
du |
glas |
gwyn |
cath |
gafr |
ceffyl |
Llydaweg |
unan |
daou |
tri |
nav |
dek |
du |
glas |
gwen |
kazh |
gavr |
mar’ch |
Gaeleg yr Alban |
aon |
dà |
tri |
naoi |
deich |
cat |
gabhar |
||||
Gwyddeleg |
aon |
dò |
tri |
naoi |
deich |
cat |
gabhar |
Beth fydd dyfodol yr ieithoedd hyn tybed?
Edrychwch ar y penawdau hyn o bapurau newydd ddiweddar:
O edrych yn fanylach o dan y pennawd ‘The state of the Welsh language: Number of people speaking Welsh fluently falls by 7,000 over the last decade’, fe welir bod Arolwg Iaith Llywodraeth Cymru yn 2014 wedi darganfod bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 12% i 11% rhwng 2004 a 2014.