Gwneud y Pethau Bychain dros y Gymraeg

pethau bychaim.jpg

Diweddarwyd 01 Awst 2014

Cyfleoedd i rannu a hyrwyddo syniadau syml i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

Ry’n ni am weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Felly, ry’n ni’n datblygu dulliau newydd i gynyddu defnydd yr iaith. Un o’r dulliau hynny yw ymgyrch newid ymddygiad newydd o’r enw #PethauBychain.

Mae’r ymgyrch yn cael ei ysbrydoli gan ymadrodd enwog ein nawddsant, Dewi Sant, "Gwnewch y pethau bychain".*

Nod yr ymgyrch yw annog pobl ar draws y wlad i rannu awgrymiadau ar sut y gallwn ni i gyd wneud newidiadau bach i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg bob dydd.

Byw, dysgu a mwynhau yn y Gymraeg

Fe elli di gefnogi’r ymgyrch #PethauBychain mewn sawl ffordd.

Byw

Beth am ddefnyddio’r Gymraeg yn dy fywyd bob dydd drwy:

  • Tecstio a defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg
  • Dewis yr opsiwn Cymraeg wrth dynnu arian o’r peiriant twll-yn-y-wal
  • Newid yr iaith ar dy ffôn, tabled neu gyfrifiadur.

Dysgu

Fe elli di wella dy sgiliau iaith neu sgiliau iaith dy deulu drwy:

  • Dewis addysg Gymraeg neu ddwyieithog ar gyfer dy blentyn
  • Dilyn cwrs gloywi iaith
  • Gwisgo bathodyn ‘Cymraeg’ i ddangos i gwsmeriaid bod gwasanaeth dwyieithog ar gael.

Mwynhau

Dathla’r Gymraeg bob dydd drwy:

  • Ymweld ag un o’r gwyliau Cymraeg sy’n digwydd dros yr haf
  • Lawrlwytho neu brynu llyfr neu ap newydd Cymraeg
  • Prynu nwyddau neu gynnyrch o Gymru ar gyfer dy gartref.

Cyfryngau Cymdeithasol

Drwy ddefnyddio'r hashnod #PethauBychain, fe elli di ddangos dy gefnogaeth i'r ymgyrch ar y sianelau canlynol:

 

* Mae’r geiriau i’w gweld ym mhregeth olaf Dewi Sant sydd wedi ei chofnodi yn Llyfr Ancr Landdewibrefi.