
Mae’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn sgil ychwanegol sy’n fanteisiol i bobl sy’n chwilio am swydd.
Pam mae Cymraeg yn bwysig ar fy CV?
- Mewn rhai rhannau o Gymru mae cwmnïau yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael trafferth i recriwtio staff sydd â’r sgiliau dwyieithog priodol.
- Mae rhai cwmnïau yn recriwtio siaradwyr Cymraeg yn unig.
- Mae pobl ifanc a busnesau newydd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg.
- Mae llawer o Gynlluniau Iaith Gymraeg yn nodi: ‘Wrth benodi staff, bydd y sefydliad yn ystyried gallu yn y Gymraeg yn gymhwyster ychwanegol, os yw popeth arall yn gyfartal.’
Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud?

MAE’N FFAITH!!!!!
CANLYNIADAU GWAITH YMCHWIL YN DANGOS PWYSIGRWYDD DWYIEITHRWYDD
- Disgyblion dwyieithog yn gwneud yn well na disgyblion uniaith mewn profion IQ a phrofion creadigol.
- Pobl sy’n deall Cymraeg ar gyfartaledd yn ennill 60 ceiniog yn rhagor bob awr, neu oddeutu 9%.
- Tua dwy filiwn o bobl yng Nghymru o’r farn ei bod yn bwysig i gwmnïau gynnig gwasanaeth dwyieithog.
- Cwsmeriaid yn credu bod gwasanaethau Cymraeg a chynnyrch wedi’i becynnu’n dwyieithog o ansawdd uwch.
- Defnyddio’r Gymraeg yn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n gartrefol ac yn arwain at ffyddlondeb cwsmeriaid.
- 70% o 300 o gyflogwyr yng Ngheredigion, Powys a Meirionnydd eisiau gweithwyr dwyieithog mewn rhai swyddi. Dros gyfnod o dri mis, roedd 56% o 40 o hysbysebion swyddi yn nodi anghenion iaith, gan gynnwys 21 (52.5%) oedd yn dweud fod y Gymraeg yn ddymunol ac 19 (47.5%) yn dweud fod y Gymraeg yn hanfodol.