Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac yr ydym yn dathlu ei fywyd ar Fawrth 1af - Dydd Gŵyl Dewi - bob blwyddyn.
Mae rhai yn dweud fod Mawrth 1af, dyddiad ei farwolaeth, wedi ei ychwanegu i galendr yr Eglwys pan gafodd Dewi ei wneud yn sant gan y Pab Callistus II yn 1120 ond mae'r dyddiad yn cael ei nodi fel Dydd Gŵyl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o'r 9fed Ganrif hefyd.
Rhai o eiriau olaf Dewi cyn iddo farw oedd ei rai enwocaf. Yn ei bregeth olaf dywedodd, 'Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i'.
Roedd Dewi’n enwog am wneud pethau bychain oedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i rywun arall e.e. gwneud cymwynasau, bod yn garedig a helpu.
Mae’n argyfwng, dyna glywais
gan sawl un ar hyd y lle,
am fod geiriau’n mynd yn adlais
yng nghefn gwlad a fesul tre.
Ac mi glywais rai’n proffwydo
na fydd achub ar yr iaith.
Rhai mewn grym yn paldaruo
ond heb ildio llawer chwaith.
Deunaw wfft i bawb o’r rheini
dechrau wrth dy draed ar lawr.
Fesul nodyn y daw canu
adar mân yn dwrw mawr.
Er bod yna le i grio,
lle i ruo, lle i rant
dim ond chdi dy hun all lwyddo
i gysuro yr hen sant.
Rhys IorwerthCymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Argyfwng | creisis, amser anodd | crisis |
Adlais | eco | echo |
Proffwydo | rhagweld, gweld ymlaen i’r dyfodol | prophesy |
Paldaruo | mynd ymlaen ac ymlaen am rywbeth | go on and on about something |
Ildio | rhoi i mewn | give in |
Rant | gwneud ffys /llawer o sŵn am rywbeth | to rant |