Aur – popeth melyn!

Rhifyn 34 - Nid aur yw popeth melyn
Aur – popeth melyn!

28 Hydref, 1859

 

Yr ydym wedi cael storm ofnadwy yr wythnos hon. Roedd y gwyntoedd yn wyllt – mor wyllt fel bod llawer o ddifrod wedi digwydd yn yr ardal.

 

Y peth gwaethaf, fodd bynnag, oedd llongddrylliad ar y creigiau. Tua un ar ddeg o’r gloch y nos, angorodd llong o’r enw Royal Charter oddi ar yr arfordir, a dechreuodd anfon rocedi i’r awyr er mwyn dangos ei bod mewn perygl. Roedd hi’n gwbl amhosib i unrhyw gwch neu long fentro allan i roi cymorth. Tua thair awr yn ddiweddarach cafodd y llong ei gwthio tuag at y draethell gan fod y ddwy gadwyn oedd yn ei chlymu wedi torri.

 

Gwelodd Thomas Hughes beth oedd yn digwydd a rhedodd o gwmpas y pentref i geisio trefnu cymorth.  Yn y cyfamser, nofiodd un o’r dynion o’r llong i’r lan gyda rhaff, a dechreuodd rhai pobl ddod oddi ar y llong, gan ddefnyddio’r rhaff. Aeth tua 28 o bobl y pentref i lawr i’r traeth i geisio cynorthwyo. Ond yna, cafodd y llong ei hyrddio ar y creigiau, torrodd yn ddau a bu farw’r rhan fwyaf o’r bobl oedd arni.

 

Mae’n debyg bod rhai pobl wedi neidio i’r dŵr ac wedi ceisio nofio i’r lan ond methon nhw gan eu bod wedi llenwi eu pocedi ag aur ac wedi gwisgo gwregysau yn llawn aur.

 

Mae cyrff rhai o’r bobl druenus wedi cyrraedd y traeth erbyn hyn – tybed faint mwy sydd i ddod?

Llongddrylliad

Roedd llongddrylliad oddi ar Porth Alerth, i’r gogledd-ddwyrain o Ynys Môn nos Fawrth / bore Mercher diwethaf, 25-26 Hydref.

 

Royal Charter oedd enw’r llong – un o longau’r cwmni Liverpool and Australian Steamship Navigation a lansiwyd yn 1855. Roedd hi wedi cael ei hadeiladu yng Nglannau Dyfrdwy.

 

Llong stêm oedd hi ac roedd lle i 600 o deithwyr a chargo arni. Roedd hi’n llong gyflym. Gallai deithio o Awstralia i Lerpwl mewn llai na 60 diwrnod.

 Royal Charter.jpg

Roedd y llong wedi teithioo Melbourne, Awstralia gyda tua 500 o bobl arni. Roedd llawer o’r rhain wedi bod yn cloddio am aur yn Awstralia ac roedd cargo o aur ar y llong hefyd.

Noson stormus

Roedd hi’n noson stormus tu hwnt, gyda gwyntoedd cryf iawn yn cyrraedd  tua phwynt 12 ar Raddfa Beaufort. Mae pwynt 8 ar y raddfa’n dynodi hyrddwynt ond mae pwynt 12 yn dynodi corwynt ac felly gellir dychmygu pa mor anodd oedd yr amgylchiadau.

 

Am un ar ddeg o’r gloch, angorodd y llong oddi ar arfordir gogledd–ddwyrain Ynys Môn ond roedd y gwynt mor gryf, torrodd y cadwyni a chafodd y llong ei hyrddio tuag at y creigiau ger Porth Alerth, ger Moelfre. Torrodd y llong yn ddau ddarn wrth iddi gael ei hyrddio yn erbyn y creigiau gan y gwyntoedd cryfion, tua 100 milltir yr awr.

 

Credir bod dros 450 o bobl wedi eu lladd, llawer ohonynt wrth iddynt daro yn erbyn y creigiau. Yn ogystal, boddodd rhai wrth iddynt geisio nofio i’r lan gan eu bod wedi llwytho aur i mewn i’w pocedi a gwisgo gwregysau trwm yn cynnwys aur cyn gadael y llong.

 

O gwmpas Cymru

Mae’r storm ofnadwy wedi achosi llawer o ddifrod o gwmpas arfordir Cymru, gan gynnwys codi’r to a difrodi waliau Eglwys Sant Brynach yng Nghwm yr Eglwys, Sir Benfro. 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
difrod niwed damage
llongddrylliad llong sydd wedi cael ei dinistrio, e.e. mewn storm neu ar greigiau shipwreck
angori gollwng yr angor i mewn i’r môr er mwyn gwneud y llong yn sefydlog to anchor
traethell banc tywod sandbank
yn y cyfamser tra oedd hyn yn digwydd in the meantime
hyrddio gwthio ymlaen yn gryf to drive forward violently
gwregysau lluosog “gwregys”; rhywbeth rydych chi’n ei wisgo am eich canol belts
dynodi dangos to denote
hyrddwynt gwynt cryf iawn gale
corwynt gwynt cryf iawn, cryfach na hyrddwynt hurricane
difrodi achosi difrod to damage