Haia, Jo.
Mae Jo’n siarad ar-lein. Yn sydyn, mae’n cael neges.
Haia, Jo.
Pwy wyt ti?
Sean – dw i’n ffrind i Ben.
Wyt ti eisiau siarad?
Ond dw i ddim yn dy nabod di.
Dw i’n ffrind i Ben. Wyt ti’n ffansïo sgwrs?
Pam lai?
Wel, dweda rywbeth amdanat ti dy hun.
Beth wyt ti eisiau gwybod amdana i?
Unrhyw beth.
Dw i’n 15 oed, dw i’n byw yn Abermawr.
Dw i’n gwybod dy fod ti’n 15 oed a dy fod ti’n byw yn Abermawr – dw i’n ffrind i Ben, cofio?
O!
Dweda rywbeth arall.
Wel, dw i wrth fy modd gyda chwaraeon – nofio yn arbennig. Dw i’n nofio yn y pwll nofio bob bore dydd Sadwrn. Dw i’n mwynhau mynd allan gyda ffrindiau.
I ble?
Gorfod mynd, sori ...
O’r diwedd, rwyt ti ’nôl ar-lein.
Sori – Mam!!!
Problem?
Dw i ddim i fod i siarad ar-lein – ac roedd hi’n dod i mewn i’r ystafell. Doeddwn i ddim eisiau iddi hi weld beth roeddwn i’n wneud.
Beth ddigwyddodd?
Dim byd. Wnes i glicio ar yr X ar y sgrin ar unwaith ac yna roedd hi’n gallu gweld fy ngwaith cartref i ar y sgrin. Popeth yn iawn.
Mamau!
Ie wir. Maen nhw’n gallu bod yn niwsans weithiau.
Cytuno’n llwyr. Mae ffrindiau’n well. Dw i’n hoffi’r llun proffil ar dy dudalen di.
Diolch.
Pwy ydy’r ferch gyda’r gwallt golau?
Erin, fy ffrind gorau. Pam wyt ti eisiau gwybod amdani hi? Wyt ti’n ei ffansïo hi?
Hei – dw i’n siarad gyda ti nawr – nid Erin.
O!
Iawn, dw i eisiau gwybod mwy amdanat ti.
Pam?
Wel, hoffwn i fod yn ffrind i ti.
O!?!?
Hoffwn i ddod i wybod mwy amdanat ti. Beth wyt ti’n hoffi bwyta, er enghraifft?
Siocled! Dw i wrth fy modd gyda siocled – siocled tywyll, siocled gwyn, siocled llaeth – unrhyw fath o siocled.
Iawn, beth ydy dy gyfeiriad ti?
Dw i ddim i fod i roi fy nghyfeiriad i ar y we – mae Mam wedi dweud sawl gwaith.
Mamau eto!!! Dw i’n ffrind i Ben, cofio? Felly, dim problem!
O, iawn – os wyt ti’n ffrind i Ben. Pam wyt ti eisiau gwybod beth bynnag?
Rwyt ti’n hoffi siocledi – efallai galla i anfon anrheg fach i ti.
Pa fath o anrheg?
Cei di weld - os wnei di roi dy gyfeiriad i mi.
Pam lai? Rwyt ti’n ffrind i Ben on’d wyt ti? 10 Ffordd y Bryn, Llanaber.
Grêt. Bydd rhywbeth yn y post i ti yfory.
Ond pam wyt ti’n mynd i anfon anrheg ata i? Dim ond newydd ddechrau siarad ydyn ni.
Gwir – ond dw i’n gobeithio byddwn ni’n dod yn ffrindiau da. Beth amdani?
Pam lai? Beth amdanat ti ‘te? Faint ydy dy oed ti?
16.
Wyt ti’n mynd i’r ysgol?
Ydw – fel ti.
Beth wyt ti’n hoffi?
Dw i’n hoffi nofio hefyd. A dw i’n hoffi mynd ma’s gyda ffrindiau – fel ti.
I ble wyt ti’n hoffi mynd?
I’r sinema … i’r ganolfan bowlio deg …
Dyna ryfedd – dw i’n hoffi mynd i’r lleoedd yna hefyd.
Hei, dw i newydd gael syniad.
O?
Beth am gwrdd nos Sadwrn?