Dydy pethau ddim fel maen nhw’n ymddangos ar Ebrill y cyntaf!

 

Edrychwch ar y sleidiau sy’n dilyn.

Mae’r pethau yn y sleidiau’n edrych yn dda, ond pam dydyn nhw ddim cystal ag maen nhw’n edrych? Pam mae’r ddihareb, “Nid aur yw popeth melyn” yn wir ar gyfer y sleidiau yma? 

Mewn geiriau eraill, beth ydy’r jôc Ffŵl Ebrill ym mhob llun?

Trafodwch hyn mewn grŵp ac yna ewch i’r adran Atebion.

 

Ebrill y cyntaf ar draws y byd

Mae pobl ar draws y byd yn chwarae jôcs ar Ddydd Ffŵl Ebrill, e.e. yn Sweden, Gwlad Groeg, Brasil, Yr Alban, Yr Almaen ac mewn gwledydd eraill.

Fish back.jpg (1)

Ffrainc a’r Eidal

Yn Ffrainc a’r Eidal, mae plant a phobl ifanc yn defnyddio tâp gludiog i osod pysgodyn ar gefn rhywun arall heb i’r person yna wybod. Yna, mae’r person yn cerdded o gwmpas gyda physgodyn ar ei gefn. Enw’r diwrnod yw Poisson d’Avril yn Ffrainc neu Pesce d’Aprile yn yr Eidal.

Iran

Yn Iran, maen nhw’n dathlu’r Flwyddyn Newydd ar ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill ac felly ar Ebrill y cyntaf, neu Ebrill yr ail weithiau, maen nhw’n treulio’r prynhawn yn yr awyr agored, yn bwyta, yn chwarae gemau ac yn chwarae jôcs caredig ar ei gilydd. Maen nhw’n chwerthin a chwerthin achos maen nhw’n credu bod chwerthin yn glanhau’r meddwl o feddyliau drwg.

Sizdah_Bedar.jpg
kid-flour-smaller.jpg

Portiwgal

Maen nhw’n dathlu Ffŵl Ebrill ym Mhortiwgal ar y dydd Sul neu’r dydd Llun cyn y Grawys. Maen nhw’n taflu blawd at ei gilydd.

Ydych chi’n chwarae jôcs ar Ddydd Ffŵl Ebrill?

Flour Child gan Steve; fe'u defnyddir o dan CC BY

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dihareb dywediad sy’n cynnwys syniad doeth proverb
awyr agored tu allan open-air
y Grawys cyfnod o 40 diwrnod cyn y Pasg Lent