Bydd Rio de Janeiro yn y newyddion yn ystod haf 2016 oherwydd dyma ble bydd y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal. Hon yw dinas fwyaf ond un Brasil ac mae’n ddinas liwgar, ddiddorol a chyffrous.
LLIWGAR!
Hwyl … cyffrous … lliwgar … anhygoel. Dyna rai ansoddeiriau i ddisgrifio carnifal Rio de Janeiro, sy’n digwydd 40 diwrnod cyn y Pasg.
Dyma’r carnifal mwyaf yn y byd ac mae’n digwydd dros 5 diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Gwener a gorffen ar y dydd Mawrth cyn y Grawys.
Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan ac yn cael amser anhygoel!
DIDDOROL!
Mae miliynau o bobl yn dod i Rio de Janeiro bob blwyddyn i weld y carnifal a’r golygfeydd ysblennydd ac maen nhw’n cael eu syfrdanu gan y traethau anhygoel, yn enwedig Copacabana ac Ipamena. Dyma rai o draethau gorau’r byd.
CYFFROUS!
Fel yng ngweddill Brasil, mae pêl-droed yn boblogaidd yn Rio de Janeiro ac mae Stadiwm Maracanã yn stadiwm bwysig iawn. Dyma ble bydd seremonïau agor a chloi’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn digwydd.
Ydy, mae Rio de Janeiro’n ddinas fywiog, ddiddorol a chyffrous.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
golygfeydd | lluosog "golygfa" | sights, scenery |
ysblennydd | ardderchog, gwych | splendid |
maen nhw’n cael eu syfrdanu | maen nhw’n rhyfeddu | they are surprised |
gweddill | pob rhan arall | all the other parts, the remainder |
fodd bynnag | ond | however |