Edrychwch ar y llun yma. Mae’n edrych yn lle diddorol i fynd iddo am y dydd ond dydy e ddim! Pam tybed? Trafodwch eich syniadau mewn grŵp.
Mae’r creadur bach yma’n byw yn Fietnam ac mae e’n edrych yn annwyl iawn. Fodd bynnag, dydy e ddim mor annwyl ag mae’n ymddangos. Pam tybed? Trafodwch eich syniadau mewn grŵp.
Ydych chi’n hoffi caws? Wel, beth am y caws yma o’r Eidal. Casu morzu yw enw’r caws ac mae e’n edrych yn flasus iawn ond dydy e ddim mor flasus ag mae e’n edrych. Pam tybed? Trafodwch eich syniadau mewn grŵp.
Beth am wyau? Ydych chi’n hoffi brechdanau wy, wy wedi ei ffrio, wy wedi’i sgramblo neu wy wedi’i ferwi? Tybed fyddech chi’n hoffi’r wyau yma o China? Maen nhw’n edrych yn hyfryd ond tybed beth sydd tu mewn? Trafodwch eich syniadau mewn grŵp.
Ar ôl trafod pob llun, cymharwch eich syniadau fel dosbarth ac yna ewch i’r adran Atebion.