Dw i mor siomedig a dw i mor flin! Dw i byth yn mynd i brynu ar y we eto!
Pam? Beth sy’n bod?
Mae fy mhen-blwydd i mewn chwe wythnos ac felly gofynnais i i Dad brynu beic newydd i fi ar y we. Roedd e’n costio £100 + £8 ar gyfer cludiant ac roedd e’n edrych yn fargen. Doedd Dad ddim yn hapus i wario cymaint o arian ar y we ond perswadiais i fe. Prynodd e’r beic.
Y bore ’ma, daeth y postman ag amlen fawr i fi. Agorais i’r amlen a ches i siom ofnadwy!!! Model o’r beic roeddwn i ei eisiau oedd yn yr amlen – dw i wedi cael model bach, nid y beic ei hun!
Dw i ddim yn deall.
Sgam oedd e! Talodd Dad am feic go iawn (roedden ni’n meddwl), ond model bach o feic sydd wedi cyrraedd – nid y beic go iawn.
Rhaid dy fod ti’n grac.
Dw i mor siomedig ac mae Dad yn wyllt gacwn.
Dw i'n gwybod sut wyt ti’n teimlo! Mae gen i freichled arian ac mae’n bosib prynu swyn dlysau arian i’w rhoi arni hi. Mae’r rhain yn ddrud iawn yn y siopau lleol ond gwelais i’r swyn dlysau ar wefan. Edrychais i’n ofalus ar y lluniau ar y we a’u cymharu nhw gyda’r lluniau yng nghatalog y cwmni ac roedden nhw’n edrych yn union yr un fath ond yn llawer rhatach. Felly dewisais i ddau am hanner y pris arferol. Talodd Mam gyda’i cherdyn banc.
Beth ddigwyddodd?
Cyrhaeddodd y swyn dlysau ac roedden nhw’n edrych yn union fel y rhai yn y catalog. Ond rhai ffug ydyn nhw. Maen nhw wedi eu gwneud o fetel rhad wedi eu peintio’n lliw arian. Mae’r paent yn dod i ffwrdd pan dw i’n eu gwisgo nhw. Mae un ohonyn nhw wedi torri’n hanner hefyd.
Mae hynna’n debyg i fy mhroblem i.
Ydy. Beth wyt ti’n mynd i wneud nawr?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn flin | yn ddig, yn grac | angry |
cludiant | postio | postage |
yn wyllt gacwn | yn flin / yn grac iawn, iawn | really angry |
breichled | gemwaith i’w wisgo am eich braich | bracelet |
swyn dlysau | tlysau bach i’w rhoi ar freichled | charms |
yn union yr un fath | yr un peth yn union â | exactly the same as |
arferol | fel arfer | usual |
ffug | nid y peth go iawn | fake, false |