Ydych chi wedi cael eich siomi erioed?
Oeddech chi’n disgwyl rhywbeth gwych, ond roedd yr hyn ddigwyddodd yn wahanol iawn?
Darllenwch yr hysbyseb yma o lyfryn gwyliau.
Ewch i Dasg 1 cyn darllen ymhellach.
Nawr, darllenwch y llythyr yma.
Cartref
Ffordd y Fron
Aberystwyth
SA34 7TY
Gorwelion Teg
Parc Busnes yr Afon
Abertawe
Annwyl Gorwelion Teg
Ysgrifennaf atoch am westy Bella Vista yn Lagos, Portiwgal, sy’n cael ei hysbysebu yn eich llyfryn gwyliau (tudalen 34).
Ar ôl darllen y wybodaeth yn eich llyfryn gwyliau, roedden ni’n edrych ymlaen at dreulio wythnos hyfryd mewn gwesty moethus ond rhaid i fi ddweud bod eich hysbyseb yn gamarweiniol am nifer o resymau.
Yr ystafell wely
Cawsom ein rhoi mewn adeilad bach tu ôl i’r prif westy – yr “Annexe” – ac felly ystafell fach iawn a gawsom. Pan ofynnais am ystafell fwy, dywedodd un o’r staff ein bod ni wedi cael ein rhoi yn yr ystafell yma gan ein bod ni wedi cael 30% o ostyngiad oddi ar bris arferol y gwesty – fel “bargen arbennig”. Nid oedd gennym en-suite ac roedd rhaid i ni rannu ystafell ymolchi gydag wyth o bobl eraill!
Y bwyd
Roedd yna fwyd poeth i frecwast - os ydych chi’n ystyried bara cynnes a choffi claear yn “fwyd poeth”. Yn sicr, doedd dim cig moch ac wyau fel roeddem yn ei ddisgwyl. A beth am yr “amrywiaeth o fwyd” yn eich hysbyseb? Roedd bwydlen bob nos yn wahanol ond dim ond un pryd o fwyd oedd yn cael ei weini ar un noson ac roedd hwnnw’n ofnadwy!
Y lleoliad
Mae’r hysbyseb yn dweud bod y gwesty “ger y traeth” ac mewn “lle delfrydol i ddal y trên neu’r bws”. O safbwynt bod “ger y traeth” mae hyn yn dibynnu ar sut rydych chi’n diffinio “ger”! Roedd y gwesty dri chwarter milltir o’r traeth! Mae’n wir bod y gwesty’n ddigon agos i’r orsaf trenau a’r orsaf bysiau. Roedd yr Annexe gyferbyn â’r orsaf trenau a bob hanner awr roeddem yn teimlo’r ddaear yn crynu wrth i’r trenau gyrraedd a gadael yr orsaf!
Glendid
Roedd llwch ofnadwy o dan y gwely, roedd sedd y tŷ bach wedi torri ac roedd gwallt yn y sinc (yn yr ystafell ymolchi roeddem yn ei rhannu!), roedd staen ofnadwy ar un o’r cadeiriau ac ni chawsom ddillad gwely glân drwy’r wythnos.
Rydym yn siomedig iawn gyda’r gwyliau hyn ac er bod y gwyliau’n “fargen arbennig” roedd rhaid i ni dalu £1,250 am bedwar ohonon ni – gwastraff arian llwyr! Mae’ch hysbyseb yn awgrymu bod y gwesty’n cynnig gwyliau gwych ond roedd hyn yn gwbl gamarweiniol.
Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.
Yn gywir
J. Smith
J. Smith
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
en-suite | ystafell ymolchi breifat wrth ochr ystafell wely | en-suite |
gweini | darparu | to serve |
amrywiaeth | gwahanol fathau | variety |
glendid | y cyflwr o fod yn lân | cleanliness |
delfrydol | gorau | ideal |
moethus | crand iawn | luxurious |
camarweiniol | arwain rhywun i’r cyfeiriad anghywir | misleading |
gostyngiad | disgownt, pris is | discount |
claear | rhwng oer a chynnes; ychydig bach yn gynnes | lukewarm |
o safbwynt | yng nghyd-destun, mewn perthynas â | in relation to |
diffinio | egluro, ystyried | to define |