Beth yw Etholiad y Cynulliad?

Rhifyn 35 - Gwleidyddiaeth
Beth yw Etholiad y Cynulliad?

Beth yw Etholiad y Cynulliad?
Dyma gerdd rap sy’n egluro popeth, gobeithio!

Mae’r Cynulliad yng Nghaerdydd, ry’ch chi’n gwybod hynny,
A phob pum mlynedd, mae’n rhaid penderfynu
Pwy fydd y chwe deg aelod sy’n eistedd yn y seddi
Er mwyn creu deddfau fydd yn gwella Cymru.

Felly ddydd Iau, y pumed o Fai,
Bydd pobl yn pleidleisio, dim mwy, dim llai.
Mae sawl plaid yn ymladd, yn mynd ati o ddifrif:
Tri deg un sedd sydd yn rhoi mwyafrif.

Llafur sy’ ’di bod yn rheoli’n selog,
Gyda Carwyn Jones yn Brif Weinidog.
Y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a’r Democratiaid Rhyddfrydol
Y Blaid Werdd ac UKIP sy’n ymgyrchu’n benderfynol.

Gall pawb dros ddeunaw fynd i fwrw pleidlais;
A dweud y gwir mae dwy, ac mae hynny’n fantais.
Y gyntaf i’r ymgeisydd mewn etholaeth leol
A fydd yn Aelod Cynulliad dros yr ardal benodol.
A’r ail i ymgeisydd ar restri gan y pleidiau
A fydd yn Aelod dros y rhanbarth, o’r gorau?

Fe fydd y chwe deg Aelod wrthi’n trafod polisïau
A fydd yn dod wedyn yn fesurau a deddfau.
Fe fydd hyn ar bynciau fel Iechyd a Thrafnidiaeth,
Addysg, Diwylliant ac Amaethyddiaeth.
Bydd y Gwasanaethau Tân ac Achub, a Thwristiaeth
Datblygu Economaidd, yr Amgylchedd a Choedwigaeth
Yn cael eu sylw, heb anghofio am feysydd Tai,
Adeiladau Hanesyddol, y Gymraeg ac Ysbytai.

Felly dwedwch wrth bawb ry’ch chi’n eu hadnabod
Am fynd i bleidleisio; mae’n reit bwysig, chi’n gwybod.
Achos am bum mlynedd, bydd y Senedd yn rheoli
Yr holl bethau hyn fydd yn digwydd inni.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
selog cyson, rheolaidd constant
ymgyrchu cynnal ymgyrch to campaign