Gwleidydd ifanc

Rhifyn 35 - Gwleidyddiaeth
Gwleidydd ifanc
PLAID CYMRU YN DEWIS ‘COG* LLEOL’ YN YMGEISYDD YN SEDD MALDWYN

Mae Plaid Cymru wedi dewis Aled Morgan Hughes o Langadfan yn ymgeisydd ym Maldwyn ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai eleni.

Mae Aled yn siaradwr Cymraeg rhugl, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Dyffryn Banw ac Ysgol Uwchradd Caereinion, gan fynd ymlaen i astudio graddau mewn Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Erbyn hyn mae’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd Aled Hughes ar ben ei ddigon o gael ei ddewis, yn arbennig oherwydd ei gysylltiad â’r ardal.

“Mae fy nheulu’n wedi byw a gweithio yn yr etholaeth am genedlaethau, ac rwyf yn teimlo’n hynod angerddol tuag at hanes, pobl a dyfodol yr ardal,” meddai’r mab i gyn-athro Cymraeg.

“Fel cog* lleol, rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau gwledig o ddydd i ddydd. Dro ar ôl tro, rydyn ni’n cael ein hanghofio a’n hesgeuluso gan y Torïaid yn San Steffan a’r Blaid Lafur ym Mae Caerdydd.

“Mae’r toriadau di-ben-draw yn gadael ein gwasanaethau cyhoeddus mewn anhrefn llwyr – o’n hysgolion i’n gwasanaethau iechyd – mae ein cymunedau’n wynebu argyfwng.

aledmorganhughes.jpg

Dyma enghraifft o ddatganiad i’r wasg am Aled Morgan Hughes, 23 oed, ymgeisydd ieuengaf Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad. Mae’n sefyll yn etholaeth Maldwyn.

 

“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn helpu Maldwyn i ffynnu. Os caf fy ethol, rwy’n addo bod yn llais cryf, cyfeillgar dros Faldwyn, a Chymru Wledig.”

*cog = gair tafodieithol am ‘bachgen’

Er gwybodaeth:

Yn ymladd yn erbyn Aled Hughes am sedd Maldwyn mae:

Russell George (Ceidwadwyr) – yr Aelod Cynulliad presennol

Jayne Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Richard Chaloner (Y Blaid Werdd)

(Nid oedd enwau ymgeiswyry Blaid Lafur ac UKIP wedi’u cyhoeddi ddiwedd mis Mawrth 2016, pan gafodd y gwaith hwn ei baratoi.)