Does dim dianc rhag gwrthdaro

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Does dim dianc rhag gwrthdaro

Dyna ddywedodd Americanwr enwog unwaith – ac mae’n berffaith wir! Heb wrthdaro, mae bywyd yn gallu bod yn ddiflas ac yn undonog.

Mae’n bosib gosod gwrthdaro mewn 2 brif gategori
  • Gwrthdaro mewnol, sy’n digwydd ym meddwl y person e.e. brwydr i ddod i benderfyniad neu i ddod i delerau â theimlad h.y. y person yn erbyn y person ei hun.
  • Gwrthdaro allanol, sy’n digwydd rhwng person a rhywun neu rywbeth arall h.y. person yn erbyn person, person yn erbyn natur, person yn erbyn y gymdeithas.

GWRTHDARO O HYD AC O HYD!

Ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?

SEFYLLFA MATH O WRTHDARO

Rydych chi wrth eich bodd yn mynd i ymarfer pêl-droed bob nos Wener. Yr wythnos diwethaf, roedd yn rhaid i chi fynd allan gyda’ch teulu a’r wythnos hon mae ffrind wedi gofyn i chi fynd gyda fe i’r sinema.

Mewnol – y person yn ei erbyn ei hun.

Mewn parti, rydych chi’n treulio llawer o amser gyda Justin – jyst yn siarad. Mae ffrind arall i chi, Heulwen, wedi dechrau stori am y ddau ohonoch chi.

Allanol – y person yn erbyn ei ffrind

Mae bachgen hŷn wedi bod yn eich bwlio chi ar y bws ysgol ers mis. Mae’n galw enwau arnoch chi ac yn eich pwnio. O’r diwedd, rydych chi’n cael llond bol arno ac yn gweiddi, ‘Paid byth â chyffwrdd ynddo i eto!’

Allanol – y person yn erbyn person arall

Mae gennych chi brosiect i’w orffen erbyn dydd Llun.  Mae’n nos Sul a dim ond ei hanner rydych chi wedi ei wneud. Rydych chi wedi cael mis i wneud y prosiect ac mae’ch athro chi wedi dweud ei fod yn disgwyl i chi gael gradd uchel am y prosiect.

Mewnol – y person yn erbyn y person

Mae tîm rygbi bechgyn ardderchog yn dy ysgol. Pan rydych chi a grŵp o ffrindiau yn gofyn i Bennaeth yr ysgol am gael dechrau tîm rygbi i ferched, yr ateb yw, ‘Syniad gwych ond does gennyn ni ddim digon o arian’. 

Allanol – y person yn erbyn y sefydliad

Mae’ch tad yn mynd â chi a’ch ffrindiau i gêm bêl-droed fawr yn y dref. Rydych chi wedi dechrau’n ddigon buan ond rydych chi wedi colli’r ffordd. Rydych chi’n dweud eich bod chi’n meddwl eich bod chi wedi mynd heibio i’r cae pêl-droed ond mae’ch tad yn dweud, “Pwy sy’n gyrru? Ti neu fi?”

Allanol – y person a’i dad