Gyrwyr ceir v beicwyr

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Gyrwyr ceir v beicwyr

 

Mae’r ystadegau gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015 yn dangos:

  • Mae 35 beiciwr yn cael eu lladd am bob biliwn o filltiroedd sy’n cael eu teithio o’i gymharu â 2 deithiwr mewn car.
  • Mae beicwyr 23 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad na theithwyr mewn car, gyda 6,588 yn cael eu hanafu am bob biliwn o filltiroedd teithio o’i gymharu â 286 o ddefnyddwyr car.

 

Marwolaethau ar ffyrdd

 

 

Cafodd yr ystadegau hyn eu cyhoeddi yn fuan wedi i’r wythfed beiciwr mewn chwe mis gael ei ladd yn Llundain. Dywedodd llefarydd, ‘Rhaid gwneud mwy i greu mwy o le i feicwyr ar ffyrdd y brifddinas er mwyn sicrhau diogelwch pawb sydd am ddefnyddio beic.’

 

Yn Stamford Hill, Llundain, lladdwyd Stephanie Turner wedi iddi gael ei tharo gan lori.

Ddechrau 2015, gorweddodd cannoedd o feicwyr yno i dynnu sylw at y peryglon mae’n rhaid i feicwyr eu hwynebu.

 

BARN Y BOBL

CHWARAE TEG I FEICWYR: Barn Mathew Roberts

Nid ar gyfer ceir yn unig y cafodd ein ffyrdd eu hadeiladu, fel mae gyrwyr ceir yn ei gredu! Does ganddyn nhw ddim parch at feicwyr, beicwyr modur na cherddwyr!

Rydw i’n feiciwr brwdfrydig, yn mwynhau beicio er lles fy iechyd ac yn ceisio achosi llai o lygredd wrth deithio o fan i fan. Pan nad ydw i ar gefn fy meic, rydw i’n dod ymlaen yn iawn gyda chi, yrwyr ceir! Ond beth sy’n digwydd i chi pan fyddwch chi tu ôl i olwyn lywio car? Rydych chi’n troi i fod yn angenfilod hunanol, anystyriol a di-hid. 

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gael eich sylw? Rydw i newydd wario £150 ar siaced fflworesent, mae gen i olau halogen ar fy mhen, sticeri golau ar fy helmed a mwy o oleuadau’n fflachio ar gefn fy meic nag sydd ar holl goed Nadolig Efrog Newydd. Ond, eto, does neb yn sylwi arna i!

Pan fyddwch chi’n agor drws eich car, rydych chi’n edrych am gar neu lori a dyna welwch chi. Pe baech chi’n edrych am feiciwr fe fyddech yn ei weld ond dydych chi ddim yn chwilio amdano! Felly, dydych chi ddim yn ei weld!

Rhaid i fi ddioddef eich hunanoldeb! Ydy hyn yn canu cloch? Rydych chi mewn ciw o geir ac mae rhywun am droi i’r dde o stryd ar y chwith i chi. Rydych chi’n berson caredig ac felly yn arwyddo ar y gyrrwr i ddod allan. Ond ydych chi’n edrych yn y drych i weld ydw i’n mynd heibio i chi? Nac ydych! Ar bwy mae’r bai os ydw i’n cael fy lladd? Gyrrwr y car sy’n dod o’r stryd ar y chwith neu chi?

Oes, mae gennym ni, feicwyr, lwybrau beicio cyfleus, meddech chi. Cyfleus i bwy? I chi gael parcio arnyn nhw? Tybed sut ydych chi’n cael  teiars fflat bob tro rydych chi’n parcio yno?

A pha mor ofalus ydych chi pan fyddwch chi’n troi i’r dde mewn cyffordd T? Pe bawn i’n cael punt am bob tro rydw i wedi gorfod stopio neu droi’n sydyn i osgoi cael fy nharo gan gar sy’n troi i’r dde mewn cyffordd T, byddwn i wedi cyfnewid fy meic am hofrennydd! Pan fydda i wedi codi sbîd, does gen i fawr o awydd slamio fy mrêcs i osgoi dod trwy ffenest ochr eich car! Pe bawn i’n fws, fyddech chi ddim yn breuddwydio tynnu allan!

Rydych chi’n enwog am godi sbîd yn wyllt cyn goddiweddyd! Dyma’ch hoff dacteg pan welwch chi draffig yn blocio’ch ffordd ymlaen. Dylai traffig adael i ni feicwyr hwylio heibio’n braf! Ond na! Rhaid i chi osod eich hun ar ganol y ffordd fel fy mod innau’n methu symud hefyd! Neu rydych chi’n rhuthro heibio, slamio’r brêcs a’m gadael i yn y gwter. Fedra i wedyn ddim peidio â thynnu stumiau amharchus!

Pan fydda i’n gwneud hynny, does dim eisiau i chi ateb yn ôl neu neidio allan o’ch car i geisio fy nharo! Ond, does fawr o obaith i chi fy nal ar eich coesau jeli sydd wedi eu meddalu trwy eistedd mewn car!

A dyna fo! Dydw i ddim yn eich hoffi chi a dydych chi ddim yn fy hoffi i!

 

Beiciau Boris – ateb Llundain i lygredd a thagfeydd traffig

 

PERYGL I GERDDWYR: Barn Marged Morris

Fel un sy’n byw yn Llundain, rydw i wedi gweld sut mae beicwyr wedi dod â lefel newydd o wrthdaro a gwylltineb i’n strydoedd. Ychydig wythnosau yn ôl, dechreuais i  groesi croesffordd brysur yng nghanol Llundain pan ddechreuodd y golau gwyrdd fflachio. 

O gornel fy llygaid gwelais rywbeth yn hyrddio tuag ataf a neidiais yn ôl mewn pryd. Roedd beiciwr wedi mynd drwy’r golau coch.

  

Gwaeddais arno ond gan droi ataf rhegodd! Dim sôn am ymddiheuro!

Mae’n ymddangos nad yw beicwyr yn gorfod dilyn rheolau’r ffordd fel gyrwyr ceir. Maen nhw’n gyrru’r ffordd anghywir ac yn teithio ar y pafin gan orfodi cerddwyr i beryglu eu bywyd trwy gerdded ar y ffordd.

Rydw i’n cyfaddef fod nifer y beicwyr sy’n cael eu lladd yn codi dychryn ac y dylid sicrhau eu diogelwch ond mae peth o’r bai ar y beicwyr eu hunain. Mae rhai’n teithio heb olau yn y tywyllwch, eraill yn goddiweddyd ar yr ochr anghywir. Ond, mae hi bob amser yn fai  ar rywun arall!

Mae beicwyr yn rhyw fodau arallfydol. Maen nhw uwchlaw pobl gyffredin. Nhw ydy’r Mamils – ‘middle aged men in lycra shorts’! Dynion yn eu 30au a 40au sy’n gwario miloedd ar feic – rhywbeth arall sy’n rhan o’u delwedd!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
anystyriol ddim yn ystyried inconsiderate
goddiweddyd mynd heibio to overtake