Paent!, Angharad Tomos

Rhifyn 36 - Gwrthdaro
Paent!, Angharad Tomos

PAENT!

nofel gan Angharad Tomos

 

Yn 1969, cafodd Tywysog Charles ei arwisgo yn Dywysog Cymru. Digwyddodd hyn yng nghastell Caernarfon a chafodd y dref honno gryn dipyn o sylw. Mae dau reswm dros deitl nofel Angharad Tomos – cafodd perchnogion siopau’r dref baent am ddim i beintio’u siopau ac, ar yr un pryd, roedd ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn peintio arwyddion ffyrdd Saesneg. Gwrthododd perchennog un siop beintio ei siop am ei fod yn erbyn yr arwisgo. Roedd llawer yn cytuno ag ef gan gredu mai Llywelyn ein Llyw Olaf, gafodd ei ladd gan fyddin Lloegr, yn 1282 oedd tywysog olaf Cymru. Roeddent yn credu nad oedd gan Charles hawl ar y teitl gan ei fod yn Sais.

Arweiniodd hyn at lawer o wrthdaro a, noson cyn seremoni’r arwisgo, cafodd dau ddyn eu lladd gan fom yn Abergele, yn agos at y rheilffordd lle’r oedd y teulu Brenhinol i fod i deithio. Yng Nghaernarfon, roedd rhesi di-dor o gerbydau milwrol ar ddwy ochr y ffordd.

Yn y nofel ‘Paent!’, mae Robert Aneirin a’i ffrindiau, sy’n mynd i Ysgol Uwchradd Segontium yng Nghaernarfon, yn gwrthwynebu mynd gyda’r ysgol i weld Tywysog Charles yn teithio trwy strydoedd y dref i gastell Caernarfon ddiwrnod yr arwisgiad. Ond rhaid mynd ....

 

 

Mae gynnon ni gynllun ar gyfer yr Arwisgo erbyn hyn. Ar yr iard y diwrnod o’r blaen roedd ’na griw ohonon ni’n trafod ‘Y Plan’ a dyma Phillip yn dod atom ni.

‘Su’ mae?’ medda fo.‘What’s up?’

‘Nothing,’ medda Lari Leino, ‘nothing to do with you – you’re a Sais.’

Aeth Philip i ffwrdd, efo golwg ddigalon arno fo, ac roedd gen i biti drosto fo.

‘Ti ar fai’n deud hyn’na Lari,’ medda Tudur.

‘Sais ydy o de,’ medda Lari yn hy. ‘Fedar o ddim bod yn erbyn yr Investiture.’

 ‘Dydy o ddim yn iawn ei adael er ei ben ei hun,’ meddai Elma, ‘one for all ac all for one ydy’n class ni fel arfar.’

‘Ei di at Philip,’ gofynnodd Tudur i mi, ‘jest i wneud yn siŵr ei fod o’n iawn?’

I ffwrdd â fi i chwilio am y creadur – roedd yn cerdded ar ei ben ei hun rownd Cae Cicio.

‘Sorry about that, Philip, he wasn’t trying to be annifyr, ym ... hateful.’

‘Could have fooled me,’ meddai Philip, wedi pwdu. ‘Were you talking about me?’

‘Duwadd, no,’ atebais, yn gweld ei fod wedi camddeall y sefyllfa. ‘We were talking about the Investiture.’

‘So why was I not allowed to listen? Was it because I’m a Sais?’

‘Yes,’meddwn i. Wedyn ro’n i’n ofn pechu a dyma fi’n deud, ‘No’.

‘You think I’m a Royalist?’

Roeddan ni’n mynd i ddyfroedd dyfnion iawn rŵan.

‘I can’t bear you to think that I’d stand up for an idiot like Prince Charles! I thought you knew me better ... I hate the Queen, I hate the Royal family, I hate their wealth and everything they stand for,’meddai Philip.

A dyma fo’n dod yn un ohonan ni go iawn!

Pan ddaeth diwrnod yr Investiture roeddan ni’n werth ein gweld, plant Ysgol Segontium, yn cerdded i lawr y stryd. Roedd miliynau o bobl bob ochr y pafin, yn codi llaw ac yn gwenu. Er ein bod wedi disgwyl mynd ar y Maes ddaru’r plismyn ein hebrwng ni at y rhan o’r pafin oedd o flaen siop ddillad Nelson. Roeddech chi’n methu gweld y Maes am fod cymaint o bobl yno. Rhannodd Meipan a Pritch fflagiau i’r criw i  gyd.

Union Jacks ydyn nhw!’medda Elma. ‘Dydan ni ddim yn dal Union Jacks!’

‘Does na ddim Draig Goch ar ôl,’ eglurodd Meipan.

Mewn dim roedd myrdd o Union Jacks yn chwifio o flaen ein llygaid. Edrychais ar Tudur am arweiniad.

‘Well i ni eu chwifio nhw - fydd o’n rhyw fath o decoy,’ medda fo. Ond roedd chwifio’r faner honno yn deimlad chwithig. Roedd hi’n cynrychioli popeth oedd o’i le am y sioe a doedd hi ddim yn gweddu i G’narfon. Mwya sydyn, daeth geiriau’r bardd ddaru ennill yn Steddfod yr Urdd i ’mhen,

‘Fe rown wên i’r Frenhiniaeth,

Nid gwerin nad gwerin gaeth.

Byddwn daeog ddiogel

A dedwydd iawn, doed a ddêl.’*

Yn sydyn, dyma fi’n dal llygad Philip – doedd o ddim yn chwifio unrhyw faner. Edrychai’n hurt arna i’n dal f’un i, ac fe’i gollyngais mewn cywilydd.

‘Some protest this is,’ medda fo.

Edrychais ar Tudur. Roedd yntau, mae’n rhaid, wedi teimlo bod y cwbl yn chwithig, ac roedd pawb yn edrych ar ei gilydd heb fod yn siŵr be i’w neud. Drwy’r amser cadwai’r athrawon lygaid barcud arnom.

‘Ddo i â hi allan rŵan,’ sibrydodd Tudur, gan ymbalfalu o dan ei wisg a dod â’r gynfas i’r golwg. Wyddwn i ddim yn iawn pa ben i’w ddal a dyma Philip yn fy helpu. Mewn dim roedd hi wedi’i hagor a dyma Elma a Lari yn cynhyrfu’n lân a dechrau gweiddi ‘Bŵ!’ dros bob man ar bawb arall. Doedd hyn ddim yn rhan o’r cynllun ond dim ots, roedd hi’n rhy hwyr.

Daliodd Tudur un pen, Philip y pen arall, a finnau yn y canol. A dyna lle’r oedd y geiriau’n amlwg, er dipyn yn flêr: ‘Brad 1282’.

Digwyddodd pob dim mor sydyn wedyn. Rhaid bod rhywun efo camera wedi sylwi, achos daeth o’n syth aton ni drwy’r dorf a dechrau clician ei gamera fel peth gwirion.

‘Bŵ!’gwaeddodd rhyw hanner dwsin ohonon ni.

‘Tewch!’ meddai Pritch o dan ei wynt, ond wrth weld beth oedd yr helbul, aeth ei wyneb fel y galchen.

Gwaeddodd ar Meipan ond wyddai yntau ddim beth i’w wneud, ac yn y diwedd deifiodd Meipan i’n canol, fel petai’n ceisio gwthio’r faner i’r llawr.

Roeddan ninnau wedi dychryn wedyn, ac roedd Meipan yn methu codi gan ei fod wedi ei lapio yn y gynfas ac yn strancio fel mul.

Delyth Topia ddechreuodd chwerthin, wedyn mi gafodd pawb y gigls, a dyma Spragan a Pritch yn dod i helpu Meipan, ond erbyn hynny roedd pawb yn gweiddi ‘Hwrê!’ ac roedd llygaid pawb ar y ddrama oedd yn digwydd i griw ein hysgol ni.

‘Gwarthus! Gwarth-us!’ gwaeddodd Jôs Maths. ‘Disgrace llwyr,’ ac yn ei wylltineb rhoddodd glustan i Philip.

‘Bŵŵ!’ hisiodd pawb a golygfa ddoniol oedd Jôs Maths a Spragan yn trio codi Meipan.

‘Dach chi i gyd ar report!’ medda Spragan.

‘Nes i ddim byd!’ gwaeddodd Delyth Topia.

Roedd y dorf yn gweiddi’n uwch ac yn uwch, a mwya sydyn aeth y sŵn yn fyddarol. Roedd o fel tasa C’narfon i gyd yn codi ei llais i weiddi ‘Hwrê!’ mewn cefnogaeth i ni. Yna gostyngodd y sŵn mwya sydyn.

‘Be oedd hynna?’ gofynnais i Tudur yn hurt.

‘Prins Charles yn mynd heibio,’ medda fo a rhoi winc i mi.

YDY HI’N BOSIBL CAEL LLUNIAU O STRYDOEDD CAERNARFON YN YSTOD YR ARWISGO?

*Fy Ngwlad, Gerallt Lloyd Owen (Cerddi’r Cywilydd, Gwasg Gwynedd, t. 24)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
gwerin pobl gyffredin ordinary people
taeog rhywun israddol churl/serf
myrdd llawer iawn many, lots
chwithig annifyr awkward
pafin palmant pavement