Diwrnod Cychwyn a Heb Ffedog ei Fam

Rhifyn 37 - Medi
Diwrnod Cychwyn a Heb Ffedog ei Fam

DIWRNOD CYCHWYN

Daeth criw dieithr atom ddoe

yn perarogli gan ledr newydd

a’u hwynebau’n loyw fel eu bagiau.

 

Y cywion ofnus, llygadfawr

yn rhodio’u gwyleidd-dra

mewn coridorau anghynefin.

 

Bechgyn yr ail ddosbarth,

oesau yn hŷn,

yn taflu eu gorhyder

o ddrws i ddrws,

 

Ond heddiw, cyn y prynhawn

gwelais ambell newyddian yn dechrau

bwrw’r plygion o’i ddillad.

John Gwilym Jones.

Diwrnod Cychwyn, John Gwilym Jones. Blas a Blinder Byd Addysg

HEB FFEDOG EI FAM

(addasiad o stori gan Urien Wiliam)

Gwawriodd yr ail o Fedi yn fore dydd Mawrth heulog a digwmwl i Dafydd yn unarddeg a hanner oed. Roedd hi’n saith o’r gloch. Agorodd ei fam y drws yn ddistaw rhag ei ddychryn a cherddodd ar flaenau ei thraed at erchwyn y gwely. Agorodd y bachgen ei lygaid brownddu tywyll, diniwed.

‘Helo bach, nes i dy ddeffro di?’

Syllodd yntau’n ddiamgyffred arni am ennyd yna gloywodd ei lygaid.

‘Ydy hi’n amser codi?’

‘Ydy. ‘

Llithrodd Dafydd o’r gwely ag un symudiad llyfn a safodd yn hapus o flaen y ffenest.

‘Bore braf, mam. Dim glaw!’

‘Gore i gyd – gobeithio y daw e â lwc i ti drwy’r flwyddyn!’

Wedi i’w fam ddiflannu bwriodd Dafydd ati i molchi a gwisgo – crys gwyn heddiw, fel crys yr Urdd a thei wedi ei glymu’n dynn. Fel hyn bob dydd o hyn allan.

Wrth iddo fwyta’i frecwast dechreuodd arwyddocâd y bore ei gynhyrfu. O heddiw ymlaen byddai patrwm pur wahanol i’w fywyd – codi awr yn gynt, yna cerdded i gwrdd â’r bws ysgol, taith hir o ddeunaw milltir wedyn ar hyd cyffiniau’r ddinas at yr ysgol newydd. Gobeithiai y byddai Gareth yn yr un dosbarth ag ef.

‘Beth sy’n dy boeni?’

Gallai ei fam synhwyro ei deimladau i drwch y blewyn.

‘Beth os na fydda i’n nabod neb yn fy nosbarth?’ baglodd.

‘Fyddi di ddim yn hir cyn gwneud ffrindiau newydd – ymhen pythefnos fe fyddi di wedi anghofio dy hen ffrindiau’n llwyr. Beth bynnag, does dim amser da ti i ddelwi fan’na – cer lan i frwsio dy ddannedd, glou!’.

Hedfanodd lan y grisiau ac i lawr yr un mor gyflym.

‘Mynd nawr!’

‘Aros funud i fi gael golwg arnat ti!’

‘Ta ta!’

Ac roedd ar ei ffordd! Wrth nesáu at yr arosfan bws gwelodd grugyn o blant a daeth gwaedd sydyn o gymeradwyaeth i’w glustiau.

‘Drychwch! Dafydd Rhys! Dere’mlân Dafi bach! Rwyt ti mewn amdani heddi! Aros nes gwelith y bois dy ddillad glân! Fydd dy fami ddim yn dy nabod heno! Hei! Drychwch! Ma’fe’n llefain!’

‘Nag w!’

‘Wyt! Ma dŵr yn dy lygaid! Babi!’

‘Caea dy geg yr hen John Francis   ... a gad e’n llonydd!’

‘Pam y dylwn i? Mae’n sbort poeni bechgyn newydd.’

‘Hy!  Rwy’n dy gofio di’n sgrechen mwrdwr y llynedd! Rwyt ti’n un pert i alw neb yn fabi!’

Cyn i’r frwydr geiriau boethi daeth chwyrnu’r bws i’w clustiau.

Ymhen ychydig roedd pawb wedi dringo iddo a’r rhai cynta’n bollti am y cefn lle’r oedd ambell sedd wag. Suddodd Dafydd i un o’r seddau blaen yn ddiolchgar am gael llonydd gan ei boenydiwr. Doedd hi ddim yn wir iddo fod â dagrau yn ei lygaid gynnau ond un fel’na oedd John Francis. Gyda lwc gallai Dafydd gadw o’i ffordd wedi cyrraedd yr ysgol.

Clapiodd ei amrannau hanner dwsin o weithiau’n gyflym rhag ofn bod unrhyw amheuaeth o leithder yna mentrodd edrych o’i amgylch. Roedd y bws yn hanner llawn a’r wynebau’n weddol gyfarwydd iddo. Gwenodd ar ferch walltgoch mewn sedd gyferbyn ag ef - hi fu ei amddiffynnydd gynnau - a gwenodd hithau cyn troi’n ôl at ei ffrindiau.

Lledodd ton o anesmwythyd drosto. Fyddai’r athrawon yn garedig wrth y plant newydd  iddyn nhw gael cartrefu’n iawn? Rhyw drefn ryfedd oedd yn yr ysgol uwchradd – gwahanol athrawon am bob gwers a’r rheini’n mynd a dod drwy’r dydd.

Erbyn hyn roedd y bws yn llawn a phlant o bob math ac oedran yn siarad yn stwrllyd â’i gilydd, yn gynnwrf gwyllt wrth agosáu at flwyddyn newydd o ysgol ac yn sôn yn hwyliog am y gwyliau haf. Pawb ond yn rhai newydd. Roedd y rheiny wedi suddo i’w cregyn ac yn welw wrth ymyl y rhai hŷn hunan hyderus oedd yn gwybod popeth – o gyfrinachau pynciau cymhleth fel Cemeg a Ffiseg i lys-enwau’r athrawon.

Cyrhaeddodd y bws derfyn y daith ac aros. Rhuthrodd y mawrion am y drws gan weiddi ar eu  ffrindiau, yn falch o fod nôl unwaith eto. Cododd y plant newydd eu bagiau gloywon a gafel yn dynn yn eu cotiau newydd cyn baglu eu ffordd allan o’r bws.

Ceisiodd Dafydd fod yn ddewr. Pa wahaniaeth oedd am wlychad dan y tap pe bai rhaid? Fe ddangosai iddyn nhw nad oedd angen ffedog ei fam arno fe!

‘Hei! Dafydd Rhys! Dere’ma!’

Curodd ei galon yn gyflymach. John Francis oedd yn galw – o ganol clwstwr o fechgyn wrth y glwyd. Roedden nhw’n barod i’w groesawu fe yn yr un modd ag y cawson nhw eu croesawu y llynedd. Sythodd a chamu tuag at y criw.

‘Wyt ti’n barod’te?’

‘Ydw.’ Crygni yn ei lais. Cynnig eto, yn uwch y tro hwn.

‘Ydw.’

Gobeithiai na fyddai’r dŵr yn ofnadwy o oer!

Urien Wiliam

Heb Ffedog ei Fam, Urien Wiliam. Blas a Blinder Byd Addysg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Rhodio cerdded walking
Gwyleidd-dra swildod shyness
Anghynefin dieithr unfamiliar
Gorhyder gormod o hyder overconfident
Newyddian un newydd new