Bwyd yr Hydref

Rhifyn 37 - Medi
Bwyd yr Hydref

Awgrymiadau gwych ar sut i wneud yn fawr o’ch ffrwythau a’ch llysiau ac i arbed gwastraff.  

 

Os ydych chi’n arddwr brwd ac yn tyfu gormod o ffrwythau a llysiau bob blwyddyn, dyma syniadau da i’ch helpu i gadw’ch cynnyrch dros y gaeaf.

Pryd i gynaeafu?

Er mwyn gwybod pryd yw’r amser gorau i hel eich llysiau, ewch i wefan allotment-garden.org. Yma, cewch wybod pryd yn union yw’r amser gorau i gynaeafu eich cnydau.

Beth i’w wneud gyda chynnyrch dros ben a sut i osgoi gwastraff:

 Dyma rai syniadau:

  • Ei gyfnewid am gnwd gwahanol gyda garddwr arall fel bod gennych amrywiaeth.
  • Cytuno i gynhyrchu mathau gwahanol o ffrwythau a llysiau gyda’ch ffrindiau.
  • Ewch https://panedachacen.wordpress.com i gael ryseitiau blasus. 

Cynghorion cyflym ar gadw cynnyrch ar ei orau:

 

Rhewi ffrwythau a llysiau pan maen nhw ar eu gorau.

  • Blansio’r llysiau yn gyntaf, eu trochi mewn dŵr rhewllyd yna eu sychu’n drylwyr.
  • Eu cadw mewn cynwysyddion dwfn, aerglos neu fagiau rhewgell.
  • Llenwi cynwysyddion i’r top a gofalu nad oes llawer o aer yn y bagiau rhewgell.
  • Mae llysiau sydd fel arfer yn tyfu'n dal, yn cadw’n dda wrth eu coginio (india-corn, pys gardd) yn rhewi’n dda ar y cyfan hefyd.
  • Mae ffrwythau a llysiau yn rhewi orau ar dymheredd o -17 gradd celsiws neu’n is. Cadwch ffrwythau wedi’u rhewi am tua blwyddyn; a llysiau wedi’u rhewi am tua 18 mis.

 

 

Rhewi ffrwythau:

  • Trefnwch y ffrwythau mewn un haen ar hambwrdd pobi. Ar ôl iddyn nhw rewi, rhowch nhw mewn cynhwysydd neu fag plastig rhewgell.
  • Mae rhai ffrwythau sy’n dueddol o droi’n frown – afalau, eirin gwlanog, nectarinau,  ac ati -  mae’n rhaid eu trin ag asid asgorbig. 
  • Creu smwddi - os nad ydych chi am rewi’ch ffrwythau i gyd, gallwch wastad wneud smwddi ffrwythau blasus. Cofiwch, gallwch ddefnyddio pa bynnag ffrwythau rydych chi’n eu tyfu yn lle’r ffrwyth yn y rysáit.
  • Mae cawl madarch neu domatos yn rhewi’n dda hefyd.
     

(Delwedd trwy garedigrwydd lovefoodhatewaste.com)

 

ERS TALWM!

Wedi  darllen y pamffled gan Asiantaeth yr Amgylchedd aeth disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Trewynt i holi oedolion am eu hatgofion o gynaeafu ffrwythau a llysiau ers talwm.

JOHN JOHN

Byddai dad yn tyfu ffa hir (runner beans) a byddem yn eu bwyta bob dydd bron iawn – yn lle sbageti gyda saws bolognese ac yn lle reis gyda chyri!

HEULWEN HEULWEN

Rydw i’n cofio fy mamgu – tua 1940 – yn piclo mwyar duon mewn potiau ‘Kilner’.  Rhai gwydr oedd y rhain ac roedd caead gwydr tynn arnyn nhw.

JAC JAC

Pan oedd fy nhad yn fach byddai’n mynd i fferm ei nain a’i daid a phob gaeaf roedd darn anferth o gig moch yn hongian ar fachyn yn y gegin. Roedd hwnnw wedi ei halltu a byddai ei nain yn torri tafelli ohono i swper. Peth arall fydden nhw’n ei wneud oedd cadw afalau coginio o dan y gwely yn y llofft sbâr. Doedd yr arogl byth yn gadael y llofft, haf na gaeaf, meddai dad!

ELSI ELSI

Gwneud jam gyda ffrwythau fyddai fy mamgu. Byddem yn mynd i’r caeau i gasglu mwyar duon ac roedd yn rhaid eu golchi mewn dŵr a halen i gael gwared â’r cynrhon. Byddai’n gwneud jam gydag eirin hefyd.

NANSI NANSI

Gwaith fy nhadcu fyddai gwneud y gwin. Byddem yn mynd i gasglu pob math o aeron a byddai’n gwneud ‘sloe gin’ gydag eirin tagu. Byddem ni blant yn cael rhoi pinnau yn yr eirin ond roedd ei flas yn sur, sur!

GWYN GWYN

Chytni! Dyna ydw i’n ei gofio! Dod adref o’r ysgol ac arogl melys chytni yn llenwi’r tŷ!  Chytni tomatos – coch a gwyrdd, chytni ffa, chytni afal, chytni maro, chytni eirin ac ymlaen ac ymlaen!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Cnwd ffrwythau / llysiau yn tyfu crop
Trylwyr yn fanwl thoroughly
Fferyllfeydd mwy nag un fferyllfa pharmacies
Eirin gwlanog Eirin gwlanog peaches
Cynwysyddion Cynwysyddion containers
Tafell(i) sleisau slices