Beth mae’r awel oer yn ei ddweud
Wrth ddail y coed uwch fy mhen?
Mae ganddi newyddion drwg –
‘Mae’r haf wedi dod i ben’
Beth mae’r nant yn ei ddweud wrth yr hesg
Ar waelod y Feidir Wen?
Yr un yw ei stori drist –
‘Mae’r haf wedi dod i ben.’
Beth mae’r môr yn ei ddweud wrth y traeth,
Lle gynnau bu sŵn y plant?
Yr un ydyw stori’r môr
 stori’r awel a’r nant.
Beth yw’r cleber ar frig y to,
Lle mae’r gwenoliaid yn rhes?
‘Mae’r haf wedi dod i ben
A darfu’r heulwen a’r gwres.’
‘Mae’r haf wedi dod i ben,’
Yr un yw’r stori bob tro –
Yr adar, yr awel a’r nant,
Rhaid i mi eu coelio, sbo.
T Llew Jones.
Ffarwél Haf, T Llew Jones o Penillion y Plant (Gwasg Gomer)
"Haf bach Mihangel"
Caiff yr ŵyl arbennig yma ei dathlu ar Fedi 29ain. Roedd Gŵyl Fihangel yn arfer bod yn un o ddyddiau pwysicaf y calendr.
Cysylltir yr ŵyl gyda'r dywediad 'Haf Bach Mihangel', os yw'n dywydd braf o gwmpas y cyfnod yma. Dyma’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘Indian Summer’ yn Saesneg.
Mae sôn yn y Beibl am Sant Mihangel, lle mae ef a'i lu o angylion yn ymladd gyda'r ddraig. Mae'n symbol o'r frwydr rhwng da a drwg.
Rhoddodd y Pab Gelasius yr ŵyl i Sant Mihangel yn y flwyddyn 487 OC. Yn dilyn hyn bu llawer o ddrychiolaethau o'r Sant o amgylch y byd. Roedd y gweledigaethau yma o hyd yn digwydd ar ben bryniau. Byddai eglwysi’n cael eu codi yno er mwyn anrhydeddu'r Sant.
Mae bwyta gŵydd ar Ŵyl Mihangel yn un traddodiad. Yn ôl y sôn, bu i'r Frenhines Elisabeth y Cyntaf fwyta gŵydd pan glywodd y newydd am orchfygiad yr Armada Sbaenaidd. Yn dilyn hyn daeth yn arferiad i fwyta'r aderyn yma i ddathlu'r Ŵyl.
Cysylltiad arall gyda'r ŵyl yw na ddylid casglu na bwyta mwyar duon ar ôl Medi 29ain. Yn ôl hen draddodiad, y gred yw bod y Diafol wedi eu gwneud yn anaddas i'w bwyta ar ôl y diwrnod hwn. Mae'n dial gan iddo gael ei luchio o'r nefoedd gan yr Archangel Mihangel a glanio i ganol mieri! Er mwyn dial, credir bod y Diafol yn poeri (neu waeth!) ar y mwyar duon ar y dyddiad yma.
Mae rhai pobl yn credu mai'r hen Ŵyl Mihangel, ar Hydref 10fed yw'r dyddiad i beidio casglu mwyar duon. Ar ôl yr adeg hon maen nhw fel arfer wedi dechrau crino a dydyn nhw ddim ar eu gorau.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Hesg | glaswellt hir/ math o frwyn | reeds |
Feidir | ffordd gul | lane |
Cleber | siarad | chatter |
Darfu | wedi gorffen | finished |
Sbo | siwr o fod | surely |
Gorchfygiad | o 'gorchfygu' | defeat |
Drychiolaethau | ysbrydion | apparition |
Crino | crebachu | to wither |