Medi 1, 1939 | Am 5.30 a.m., aeth byddin Hitler i Wlad Pŵyl a dechrau’r Ail Ryfel Byd. |
Medi 2, 1666 |
dechreuodd Tân Mawr Llundain mewn becws yn Pudding Lane. Yn ystod y tridiau dilynol cafodd 13,000 o dai eu dinistrio ond dim ond 6 o bobl cafodd eu lladd. |
Medi 2, 1752 |
Rhoddodd pobl Prydain y gorau i ddefnyddio’r calendr Juliaidd a newid i’r calendr Gregoraidd. Golygodd hyn bod dydd Mercher, Medi 2 yn cael ei ddilyn gan ddydd Iau, Medi 14. Cododd pobl mewn gwrthryfel am eu bod yn teimlo eu bod wedi colli unarddeg diwrnod! |
Medi 4, 1962 |
Dechreuodd y Beatles eu sesiwn recordio cyntaf yn stiwdios Abbey Road, Lerpwl. |
Medi 15, 1944 | Milwyr America yn mynd i’r Almaen a oedd yn cael ei rheoli gan Hitler. |
Medi 15, 1789 |
– y nofelydd Americanaidd James Fenimore Cooper (1789-1851) yn cael ei eni yn Burlington, New Jersey. Enwog am y nofel The Last of the Mohicans. |
Medi 15, 1890 |
Agatha Christie (1890-1976) yn cael ei geni yn Torquay, Lloegr. Ysgrifennodd bron i gant o lyfrau yn cynnwys llyfrau dirgelwch, dramâu, barddoniaeth a ffeithiol. |
Medi 16, 1400 | Owain Glyndŵr yn cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru. |
Medi 16, 1848 |
Gwm cnoi yn cael ei gynhyrchu yn ddiwydiannol am y tro cyntaf gan John Curtis. |
Medi 16, 1620 |
Llong y Mayflower yn gadael Lloegr am America gyda 102 o deithwyr a chriw bychan. Brwydrodd yn erbyn stormydd enbyd wrth groesi môr yr Iwerydd a chyrraedd Provincetown, Massachusetts ar Dachwedd 21ain. |
Medi 17, 1905 |
Yr actores Greta Garbo yn cael ei geni yn Stockholm, Sweden. Ar ôl gwneud 27 ffilm, ymddeolodd a byw fel meudwy nes ei marwolaeth yn 1990. |
Medi 19-20, 1985 | Daeargrynfeydd yn lladd rhwng 5,000 a 20,000 o bobl yn Mexico City gan adael mwy na 100,000 yn ddigartref. |
Medi 23ain |
Tymor yr Hydref (Medi 23-Rhag. 21) yn dechrau yn Hemisffer y Gogledd. Dechrau Tymor y Gwanwyn yn Hemisffer y De. |
DIWRNOD I BOPETH!
RHAI O’R DYDDIAU SY’N CAEL EU DATHLU YN AMERICA
MEDI 1af – DIWRNOD CENEDLAETHOL Y BACHGEN CYW IÂR CENEDLAETHOL | Yn America byddant yn dathlu diwrnod Cenedlaethol y Bachgen Cyw Iâr ar Fedi 1af bob blwyddyn. Mae’r Bachgen Cyw Iâr yn gofgolofn o fachgen 22 troedfedd o uchder gyda phen cyw iâr ac mae’n cario llond pwced o gyw iâr. Cafodd ei enwi ar ôl caffi o’r un enw yn Los Angeles yn yr 1970au. Pan fu farw perchennog y caffi yn 1984 cafodd ei roi i Los Angeles. |
MEDI 3ydd – DIWRNOD "WELSH RAREBIT" (Caws pôb) | Er ei fod yn swnio’n debyg i ‘rabbit’ does dim cwningen yn y bwyd yma! Yn y 18fed ganrif byddai’n cael ei weini fel swper blasus ac roedd hefyd yn enwog fel pryd mewn tafarn. Caws ar dost gyda phupur, mwstard a saws Caerwrangon ydyw. |
MEDI 5ed – DIWRNOD BYWYD GWYLLT | Dyma’r diwrnod i fynd i’r sŵ neu i fferm i weld sut mae bywyd gwyllt yn cael ei warchod. |
MEDI 9fed | DIWRNOD CENEDLAETHOL Y TEDI BÊR |
MEDI 12fed | DIWRNOD CENEDLAETHOL GEMAU FIDEO |
MEDI 15fed | DIWRNOD GOOGLE.COM |
MEDI 24ain | DIWRNOD CENEDLAETHOL ATALNODI |
MEDI 28ain | DIWRNOD CENEDLAETHOL YFED CWRW |
MEDI 30ain | DIWRNOD CENEDLAETHOL GWM CNOI |