Byd heb arian?

Rhifyn 38 - Arian
Byd heb arian?

Allen ni fyw heb arian? Os ydych chi wedi ffeirio neu drwco rhywbeth â’ch ffrind, rydych chi wedi cyfnewid heb ddefnyddio arian. Dyma sut roedd pobl yn arfer gwneud, cyn bod arian yn cael ei ddefnyddio.

 

Beth yw cyfnewid?

System yw cyfnewid lle mae un person yn rhoi nwyddau neu wasanaethau ac yn cael nwyddau neu wasanaethau yn ôl. Does dim arian yn newid dwylo.

 

Mae cyfnewid yn gweithio’n dda os yw’r ddau berson eisiau rhywbeth sydd gan y llall. Er enghraifft, os mai crydd sy’n gwneud esgidiau ydw i, a bod angen cig arnaf, gallwn gynnig esgidiau i’r cigydd yn gyfnewid am gig. Ond os oes digon o esgidiau gan y cigydd yn barod, dydy’r system ddim yn gweithio. Dyna pam dechreuodd pobl ddefnyddio arian.

 

 

Hanes cyfnewid

Dechreuodd llwythau o bobl gyfnewid nwyddau tua 6,000 CC. Dros y canrifoedd, roedd bwyd, arfau, crefftau, ffwr, defnydd sidan, sbeisys a halen yn cael eu cyfnewid. Roedd halen yn werthfawr iawn ac yn cael ei ddefnyddio i dalu milwyr Rhufeinig, er bod arian i’w gael erbyn hynny.

 

Hyd yn oed pan oedd arian yn cael ei ddefnyddio, mae cyfnewid wedi bod yn boblogaidd pan fydd arian yn brin. Er enghraifft, adeg Dirwasgiad Mawr y 1930au, byddai pobl yn gwneud gwaith er mwyn cael bwyd, nid arian.

 

Cyfnewid yn boblogaidd

Erbyn heddiw, mae cyfnewid wedi dod yn boblogaidd eto, er enghraifft, drwy’r Rhyngrwyd. Mae’n bosibl cyfnewid â phobl ym mhen draw’r byd.

  • Gallech chi ddefnyddio gwefan ocsiwn ar-lein a marchnadoedd ffeirio (swap markets) i gyfnewid pethau nad ydych chi eu hangen nhw.
  • Yn eich ardal leol, gallech chi gynnig gwasanaeth a chael eich talu mewn nwyddau neu wasanaethau, e.e. gallech chi gynnig garddio i rywun, a bydd y person hwnnw’n smwddio eich dillad yn lle hynny.
  • Mae rhai pobl yn cyfnewid cartrefi am ychydig wythnosau. Er enghraifft, os ydych chi eisiau mynd ar wyliau i Sbaen, gallech chi gynnig i deulu o Sbaen ddod i aros yn eich cartref chi tra byddwch chi’n aros yn eu cartref nhw.

 

Manteision cyfnewid

  • Does dim angen gwario arian.
  • Mae cyfnewid yn hyblyg iawn. Gallech chi gyfnewid pethau tebyg, fel llechen neu dabled am gyfrifiadur, neu bethau cwbl wahanol i’w gilydd, fel peiriant golchi am deledu.
  • Does dim rhaid cyfnewid nwyddau bob tro. Gallech chi gynnig gwasanaeth am nwyddau, er enghraifft, gallech chi gynnig trwsio beic eich ffrind a chael sglefrfwrdd am wneud hynny.

Anfantais cyfnewid

  • Yn enwedig ar y Rhyngrwyd, gallai rhywun fod yn ceisio eich twyllo chi. Os nad ydych chi’n adnabod y person, byddwch yn ofalus iawn. Efallai nad yw’r nwyddau rydych chi’n eu cael yn gyfreithlon (er enghraifft, gallen nhw fod wedi’u dwyn), neu efallai nad ydyn nhw’n gweithio’n iawn. Fyddech chi ddim eisiau cyfnewid rhywbeth sydd bron yn newydd sbon am hen beth nad yw’n gweithio’n iawn. Felly, cyfnewidiwch â phobl rydych chi’n gallu ymddiried ynddyn nhw, fel aelodau o’r teulu a ffrindiau.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyfnewid rhoi nwyddau neu wasanaeth a chael nwyddau neu wasanaeth yn eu lle bartering