Mae cyffuriau newydd yn cael eu datblygu o hyd i wella llawer o afiechydon mewn pobl. Ond er mwyn gwneud hynny, mae arbrofi ar anifeiliaid yn digwydd. A dweud y gwir, mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ôl cyfraith y DU. Mae'n rhaid i bob cyffur newydd gael ei brofi ar ddau fath o famal byw, ac un o'r rheini'n famal mawr sydd ddim yn llygoden.
Mae'r bobl sy'n dadlau dros arbrofi ar anifeiliaid yn dweud bod rhaid gwneud yn siŵr fod cyffuriau'n saff i bobl eu cymryd nhw. Cyn i gyffuriau newydd gael eu profi ar bobl, maen nhw wedi cael eu profi ar anifeiliaid yn gyntaf. Felly, mae bywydau llawer o bobl wedi cael eu hachub.
Mudiadau hawliau anifeiliaid sy'n dadlau yn erbyn arbrofi ar anifeiliaid.
1. Mae llawer o'r anifeiliaid sy'n mynd drwy'r arbrofion yn cael eu lladd neu'n cael eu hanafu yn yr arbrawf.
2. Mae arbrofi heb ddefnyddio anifeiliaid yn bosib, ond mae gwyddonwyr yn tueddu i ddefnyddio anifeiliaid o hyd.
3. Hefyd, dydy anifeiliaid ddim yn union yr un fath â phobl, felly mae arbrofi ar anifeiliaid yn annibynadwy.
Llun: Pobl yn protestio o blaid arbrofi ar anifeiliaid.SimonWhitaker
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cyffuriau | pethau y mae moddion wedi’u gwneud ohonyn nhw | drugs |
arbrofi | gwneud arbrawf | to experiment |
mudiadau hawliau anifeiliaid | - | animal rights movements |
annibynadwy | dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno | unreliable |
primatiaid | anifeiliaid fel lemwr, tamarin a galago ('bushbaby') | primates |