smokio2.jpgDyma rai ffeithiau am ysmygu yng Nghymru:

  • Mae tua 25% o bobl Cymru'n ysmygu erbyn hyn. Mae'r ganran wedi cwympo dros y 30 mlynedd diwethaf. 
  • Mae 12% o fechgyn 15 oed a 23% o ferched 15 oed yn ysmygu. 
  • Mae ysmygwyr ifanc yn ysmygu 38 sigarét yr wythnos ar gyfartaledd. 
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu. 

 

  • os oes ffrindiau neu aelod o'r teulu'n ysmygu.
  • os ydyn nhw'n dod o deulu un rhiant.
  • os ydyn nhw'n gweld hysbysebion sigaréts.
  • os nad ydyn nhw'n gwneud yn dda yn yr ysgol.

 smokio3.jpg

  • Does dim hawl gwerthu sigaréts i rai o dan 18 oed.  
  • Mae un o bob bump person ifanc yn prynu sigaréts o beiriannau gwerthu. 
  • Mae wyth o bob deg person ifanc yn prynu sigaréts oddi wrth eu ffrindiau yn yr ysgol. 
  • Mae ysmygwyr a ddechreuodd pan oedden nhw'n ifanc yn marw 15 mlynedd cyn pryd. 
  • Mae tua 6,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn digwydd oherwydd ysmygu yng Nghymru. 
  • Mae un o bob dau ysmygwr yn marw oherwydd eu bod nhw'n ysmygu. 
  • Mae un o bob pedwar achos o ganser yn cael ei achosi gan ysmygu.
Hanes tybaco

Doedd neb wedi clywed am dybaco ym Mhrydain tan y 16eg ganrif. Byddai dynion yn ysmygu pib, cymryd tybaco powdr (snuff) ac yn ysmygu sigâr. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, daeth peiriannau oedd yn gwerthu tybaco, a dechreuodd llawer iawn o ddynion ysmygu.

Yn 1948, roedd 65% o ddynion yn ysmygu sigaréts. Er bod menywod wedi dechrau ysmygu sigaréts yn y 1920au, ar ôl yr Ail Ryfel Byd y dechreuodd nifer fawr ysmygu. Ers 1986, mae mwy o ferched ifanc na bechgyn yn ysmygu.

Tua hanner can mlynedd yn ôl, daeth prawf fod ysmygu'n achosi canser. Cyn hynny, roedd pobl yn meddwl bod ysmygu'n dda i chi.

smokio4.jpg

Llun: Thomas Hawk

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ar gyfartaledd term a ddefnyddir i ddisgrifio lefel neu raddfa ganolig rhywbeth on average
peiriannau gwerthu peiriannau sy'n gwerthu pob math o bethau, o sigatéts i fferins vending machines
achosi gwneud i rywbeth ddigwydd to cause