Faint rydych chi’n ei wybod am y Bake Off?

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi
Faint rydych chi’n ei wybod am y Bake Off?

Dyma 20 cwestiwn i brofi eich gwybodaeth am y rhaglen deledu boblogaidd. Trafodwch mewn parau neu grwpiau bach. Cofiwch: chewch chi ddim edrych ar y we i gael yr atebion!

  1. Faint o bobyddion sydd ar ddechrau’r gystadleuaeth?
  2. Faint o bobyddion sydd yn y rownd derfynol?
  3. Beth yw cyfenwau Mel a Sue?
  4. Beth yw cyfenwau Paul a Mary?
  5. Enwch y tair tasg sydd ym mhob rhaglen.
  6. Ym mha un o’r tasgau dydy’r beirniaid ddim yn gwybod pwy bobodd beth?
  7. Ble gwrddodd Mel a Sue?
  8. Ar ba sianel deledu dechreuodd y rhaglen?
  9. Ar ba sianel deledu oedd y rhaglen tan 2016?
  10. I ba sianel mae’r rhaglen yn symud?
  11. Pwy sy’n symud gyda’r rhaglen, a phwy sydd ddim yn mynd i symud?
  12. Beth yw enw’r rhaglen sy’n trafod beth sydd wedi digwydd yn y Bake Off?
  13. Beth oedd gwaith tad Paul?
  14. Tua faint o lyfrau coginio mae Mary Berry wedi’u hysgrifennu?
  15. Pwy enillodd y wobr gyntaf yn 2016?
  16. Beth oedd enw’r pobydd o Gymru yn ar y Bake Off yn 2016?
  17. Sawl cyfres o’r Bake Off sydd wedi bod?
  18. Pryd ddechreuodd rhaglen y Bake Off?
  19. Mewn sawl gwlad arall dros y byd mae rhaglen debyg i’r Bake Off erbyn hyn?
  20. Beth yw enw’r bobwraig o Gymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol y Bake Off yn 2014 ac sydd â rhaglen goginio ar S4C erbyn hyn?

Cewch yr atebion yn y tasgau.