Hanes yr Undeb Ewropeaidd
Y prif reswm dros sefydlu undeb rhwng gwledydd Ewrop oedd yr holl ryfeloedd a fu, o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r Ail Ryfel Byd.
Sylweddolwyd bod creu undeb rhyngwladol, gan gydweithio mewn heddwch, yn fwy llesol i'r gwahanol wledydd.
Felly, ar Ionawr 1af, 1958, daeth 6 gwlad yn rhan o undeb a alwyd, ar y pryd, yn Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Y chwe gwlad oedd:
Ffrainc, Yr Eidal, Yr Almaen, Lwcsembwrg, Gwlad Belg, ac Yr Iseldiroedd.
Ar ôl cael ei gwrthod sawl gwaith yn ystod y 1960au, cafodd Prydain ymuno ym 1973.
Ym 1985, cytunwyd mai’r dôn ddi-air 'Ode To Joy', gan Beethoven, fyddai'r anthem ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd.