Byd yn ei le

Rhifyn 42 - Erthygl 50
Byd yn ei le
Hywel Holi:

Croeso i chi i bennod arall o ‘Byd yn ei Le’ gyda fi, Hywel Holi.  A heno, yn trafod y pwnc cymhleth o Brydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, neu Brexit, neu hyd yn oed ‘Prallan’ sy’n derm Cymraeg am Brexit, mae panelwyr profiadol:  yn cynrychioli’r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain a fydd yn arwian y broses o adael mae Daniel Davies-Evans; o Blaid Cymru mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd, a fydd yn colli ei swydd cyn hir, sef Gwennan Haf Roberts; o’r Blaid Lafur mae’r cynghorydd o Wynedd, Sandra Saunders ac yn ymuno â nhw mae’r ffermwr adnabyddus a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd, Dai James.

Dechreuwn ni gyda chi, Daniel Davies-Evans, dywedwch pryd mae’r llywodraeth yn bwriadu tanio Erthygl 50?

Daniel Davies-Evans:

Rydyn ni a senedd Prydain wedi cytuno y bydd Theresa May yn tanio Erthygl 50, ac felly yn dechrau ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mawrth 2017.   Mae hyn yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ar gael y fargen orau i Brydain ac ymhen dwy flynedd, erbyn diwedd Mawrth 2019, byddwn ni allan o Ewrop! Cyffrous iawn.

Hywel Holi:

Cyffrous i chi mae’n sicr, ond ddim mor gyffrous i bobl fel Gwennan Haf Roberts a fydd yn colli ei swydd!

Gwennan Haf Roberts

Mae hynny’n wir Hywel!  Unwaith y byddwn ni wedi gadael, fydd gan Brydain ddim cynrychiolydd yn y Senedd Ewropeaidd yn Strasbwrg na Frwsel.  Fydd gan Gymru ddim llais yno rhagor chwaith.  Felly, mae’n bwysig i fi fod llais Cymru yn dal i gael ei glywed gan lywodraeth Llundain ar ôl i ni adael er, wrth gwrs, byddai’n well gyda fi beidio â gadael o gwbl.  Rwy’n meddwl fod Cymru yn gwneud yn dda o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Hywel Holi:

Sandra Saunders, fe bleidleisioch chi dros aros yn Ewrop hefyd, ydych chi’n poeni am effaith hyn ar Gymru?

Sandra Saunders

Wrth gwrs fy mod i’n poeni Hywel. Mae llawer o swyddi yn dibynnu ar werthu pethau i Ewrop, ac mae Cymru yn cael mwy o arian ’nôl o Ewrop nag y mae’n ei dalu i mewn.  Felly, hoffwn i gael sicrwydd oddi wrth lywodraeth Prydain y bydd Cymru yn dal i gael yr un faint o arian gan fod tlodi a sawl problem arall yn bodoli yma.

Dai James:

Os ga’ i ddod mewn fynna, Hywel, licen i weud hefyd fod angen i ffermwyr barhau i gael yr un taliadau o Brydain ag y cawsant o Ewrop.  Ond wy’n meddwl hefyd y bydd bywyd yn llawer gwell nawr o adael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Brexit yn mynd i olygu llai o waith papur di-ben-draw fel sydd wedi bod yn dod o Ewrop, a gobeithio mwy o fusnes i ni gyda gweddill y byd. 

Hywel Holi:

Wel, beth am i ni ofyn hynny i gynrychiolydd y Llywodraeth.  Mr Davies-Evans, a fydd llywodraeth Llundain yn dal i roi taliadau teg i ffermwyr?  Wedi’r cyfan, roedd ffermwyr Cymru yn cael llawer o arian oddi wrth Ewrop.

Daniel Davies-Evans

Byddai rhai’n dadlau fod ffermwyr wedi bod yn derbyn gormod o arian o Ewrop yn y gorffennol, ond gallwch chi fod yn sicr y bydd ffermwyr yn cael taliadau sy’n deg, ar ôl i Brexit ddigwydd.

Sandra Saunders:

Mae’n swnio fel addewid gwag i fi …

Dai James:

Wel, wy’n gweud ’tho chi, os na fyddwn ni’n cael yr hyn ry’n ni’n ei haeddu bydd na reiats ’ma!  Bydd tractors yn bloco’r strydoedd ym mhobman, gewch chi weld!

Hywel Holi:

Mae’n swnio fel y gallai cryn drwbwl fod ar y gorwel i’ch llywodraeth chi, Daniel Davies-Evans…

Daniel Davies-Evans:

Gwrandewch, mae pawb yn mynd i fod yn gofyn am siâr o’r gacen, a’r cyfan y galla’ i ei ddweud yw y bydd pawb yn cael cyfran deg ohoni.

Gwennan Haf Roberts:

Er mwyn sicrhau bod yna dal gacen i’w rhannu, hynny yw, fod yn dal digon o arian yn dod i mewn i Brydain drwy fuddsoddiad rhyngwladol, dw i’n meddwl bydd y peth pwysig i’w wneud yw aros yn aelod o’r hyn rydyn ni’n ei alw y Farchnad Sengl. 

Hywel Holi:

Ar gyfer y bobl hynny sy ddim yn gwybod, allwch chi egluro beth ydy’r Farchnad Sengl?

Gwennan Haf Roberts:

 chroeso.  Y Farchnad Sengl ydy’r system sy’n bodoli rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n gadael i nwyddau gael eu prynu a’u gwerthu yn ddiffwdan rhwng gwledydd, a hefyd mae’n golygu fod modd i bobl fynd i weithio mewn unrhyw wlad arall yn y Farchnad Sengl heb orfod cael fisa a llawer o waith papur, sy’n ben tost! 

Sandra Saunders:

Am unwaith rwy’n cytuno gyda rhywun o Blaid Cymru!  Mae Gwennan yn iawn, ac mae modd bod yn aelod o’r Farchnad Sengl heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.  Dyma mae Norwy yn ei wneud.

Daniel Davies-Evans:

Mae hynny’n wir, ond mae’n rhaid i Norwy dalu i fod yn y Farchnad Sengl, er nad yw Norwy yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.  Gallai gorfod talu i fod yn y Farchnad Sengl fod yn ddrud iawn i Brydain.

Dai James:

Wel ma’ angen i ni barhau gwerthu cig eidion a chig oen i Ewrop, felly well i ti a dy lot yn y llywodraeth dalu, Daniel, neu fydd reiats ’ma, wy’n gweud ’tho chi, reiats…

Hywel Holi:

Wel dyna ni wedi rhoi’r byd yn ei le unwaith yn rhagor.  Rwy’n siŵr y bydd mwy o drafod ar Brexit yn y dyfodol, ond tan hynny, nos da!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cynrychioli sefyll neu weithio dros ardal, sefydliad neu wlad (to) represent
cynghorydd aelod sydd wedi ei ethol drwy bleidlais i’r cyngor lleol councillor
pleidleisio y broses ddemocrataidd o ddewis cynrychiolwyr (to) vote
tanio dechrau proses (to) trigger
buddsoddiad arian sydd wedi ei roi i mewn i fenter neu fusnes investment
y Farchnad Sengl y system o brynu a gwerthu yn Ewrop the Single Market
nwyddau pethau sy’n cael eu prynu a’u gwerthu goods