Carwyn ac Arlene,
Ysgrifennaf atoch gan fy mod yn teimlo ei bod hi'n bwysig ein bod ni fel arweinwyr llywodraethau datganoledig ynysoedd Prydain yn cydlynu ein hymateb i Lywodraeth Llundain. Mae'n bwysicach nag erioed i ni sefyll gyda'n gilydd er budd pobl ein gwledydd ni o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'r ffaith fod fy ngwlad i wedi pleidleisio dros aros yn Ewrop, yn rhoi llaw gref i mi wrth fargeinio ar ran yr Alban. Os oes rhaid i ni ofyn am ail refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban, a bod hynny yn ffordd o aros yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, yna rwy'n barod i wneud hynny.
Mae llawer i'w drafod, awgrymaf yn gryf ein bod yn cwrdd i drafod wyneb yn wyneb.
Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.
Nicola Sturgeon,
Prif Weinidog yr Alban
Nicola ac Arlene,
Diolch i ti, Nicola, yn gyntaf am estyn mas i drafod gyda mi. Rwy'n siŵr fod Arlene yn gwerthfawrogi hynny hefyd. Rwyf fi mewn sefyllfa wahanol i chi, Nicola ac Arlene, gan fod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydych yn gwybod fy mod i wedi ymgyrchu i ni aros yn yr Undeb, ond mae’n rhaid i fi barchu awydd ein pobl i adael Ewrop. Serch hynny, mae aros yn y Farchnad Sengl, sef, fel y gwyddoch, y system sy'n caniatáu i ni fasnachu a symud yn hawdd a rhydd drwy Ewrop, yn hanfodol i Gymru. Mae Cymru yn allforio llawer o bethau, o ddur i gig i Ewrop ac mae’n dibynnu ar weithiwyr o Ewrop i atgyfnerthu ein heconomi.
Yn sicr, mae llawer i'w drafod felly rhaid i ni gyfarfod ar fyrder i drafod y manylion. Mae angen i ni siarad ag un llais wrth ddelio gyda Llundain.
Yn gywir,
Carwyn Jones,
Prif Weinidog Cymru
Carwyn a Nicola,
Rwy'n cytuno gyda ti, Carwyn, ei fod yn beth i ni drafod. Gorau po gyntaf y medrwn gwrdd gan fod cryn dipyn i'w drafod. Er bod Lloegr a Chymru wedi pleidleisio dros adael, fe gafwyd pleidlais gref yng Ngogledd Iwerddon o blaid aros yn Ewrop, ac felly rhaid i mi barchu dymuniad fy mhobl hefyd. Fy mhryder mwyaf yw bod y dyddiau o derfysg ac ymladd yn ail-ddechrau yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r heddwch rydyn ni wedi ei sefydlu wedi cymryd mor hir i'w gyrraedd fel bod cadw'r heddwch yn hanfodol. Fe wyddoch mae'n siŵr fod y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn mynd i fod yn ffin rhwng Ynysoedd Prydain a'r Undeb Ewropeaidd. Gall hynny achosi pob math o anawsterau.
Oes wir, mae llawer i'w drin a'i drafod.
Yn ddiffuant,
Arlene Foster,
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
datganoledig | o dan reolaeth ranbarthol neu leol | devolved |
bargeinio | trafod er mwyn cyrraedd cytundeb | (to) bargain |
refferendwm | pleidlais genedlaethol i ofyn barn y bobl | referendum |
ymgyrchu | gweithio dros achos penodol | (to) campaign |