Dydd Hapusrwydd hapus i chi!

Rhifyn 43 - Ysbrydoli
Dydd Hapusrwydd hapus i chi!
Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol
http://www.dyddhapusrwyddrhyngwladol.com/cymru

Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol

Pryd:    Dydd Llun, Mawrth 20

Beth:    Ysbrydoli pobl eraill; gwneud pobl eraill (a chi’ch hun) yn hapus

  • Ers 2013, mae Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol yn cael ei ddathlu ym mis Mawrth.
  • Mae’n cael ei drefnu gan y Cenhedloedd Unedig er mwyn dangos pa mor bwysig yw teimlo’n fodlon ac yn hapus. Mae hyn yn bwysig iawn mewn byd prysur lle mae cymaint o bobl yn rhuthro o gwmpas ac mewn byd lle mae llawer o anhapusrwydd weithiau.
  • Y syniad yw dangos caredigrwydd tuag at bobl eraill. Drwy wneud hynny, bydd y bobl hynny’n teimlo’n hapusach ond byddwch chi hefyd yn teimlo’n well.
  • Mae’r pethau lleiaf yn gallu gwneud i berson deimlo’n well ac mae pawb yn gallu cymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn. Beth am …?
    • wenu’n garedig ar rywun ar y stryd
    • dweud gair caredig wrth rywun
    • postio negeseuon sy’n ysbrydoli ar y we
    • cysylltu â ffrind neu aelod o’r teulu dydych chi ddim wedi ei weld ers amser
    • cyfansoddi cân hapus
    • helpu rhywun
    • ysgrifennu darn sy’n ysbrydoli a’i anfon i’r papur bro
    • gwneud animeiddiad hapus ar gyfer Dydd Hapusrwydd Rhyngwladol
  • Beth am drefnu digwyddiad arbennig yn yr ysgol neu’r coleg neu yn y gwaith?

YSBRYDOLWCH RYWUN.

YSBRYDOLWCH EICH HUN.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
rhyngwladol ar draws y gwledydd international
y Cenhedloedd Unedig sefydliad, sy'n cynnwys 193 o wledydd, sy'n ceisio gwneud yn siŵr bod gwledydd yn cyd-weithio the United Nations