Ysbrydoli pobl eraill

Rhifyn 43 - Ysbrydoli
Ysbrydoli pobl eraill
Y Cyfrifiad

Bob deng mlynedd, mae cyfrifiad yn cael ei gynnal.

Beth sy’n digwydd?

Mae aelod o bob cartref yng Nghymru yn gorfod llenwi ffurflen sy’n gofyn am wybodaeth am y teulu a’r cartref, e.e.:

  • faint o bobl sy’n byw yn y cartref
  • pa fath o gartref yw e
  • beth yw gwaith y bobl yn y cartref
  • faint ohonyn nhw sy’n siarad Cymraeg
    ac ati.

Mae’r Cyfrifiad yn bwysig oherwydd mae’n rhoi darlun cyflawn o’r boblogaeth ar adeg benodol. Yn ogystal, mae’r atebion yn cael eu dadansoddi ac maen nhw’n helpu’r llywodraeth, yr awdurdodau iechyd a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dyma'r ystadegau am faint o bobl oedd yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011.

Siaradwyr Cymraeg yn ôl awdurdod lleol

Ers cyhoeddi’r ystadegau, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi bod y Llywodraeth eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Meddai Carwyn Jones,

"Mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl - y siaradwyr Cymraeg ar draws y wlad, boed yn siaradwyr rhugl, yn siaradwyr llai hyderus neu'n ddysgwyr. Mae angen i ni barhau i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr. Mae ein hiaith yn dylanwadu ar gerddoriaeth, storïau, traddodiadau a bywyd bob dydd.”

Ond …

Sut mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn?

Sut mae ysbrydoli mwy o bobl i siarad Cymraeg?

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cynyddu codi (to) increase
hollbwysig pwysig iawn, iawn all-important
adnodd ffurf unigol adnoddau - cyfoeth; cyflenwad o rywbeth neu bobl resource
boed os whether
difyr sy'n rhoi difyrrwch entertaining