Bob deng mlynedd, mae cyfrifiad yn cael ei gynnal.
Beth sy’n digwydd?
Mae aelod o bob cartref yng Nghymru yn gorfod llenwi ffurflen sy’n gofyn am wybodaeth am y teulu a’r cartref, e.e.:
Mae’r Cyfrifiad yn bwysig oherwydd mae’n rhoi darlun cyflawn o’r boblogaeth ar adeg benodol. Yn ogystal, mae’r atebion yn cael eu dadansoddi ac maen nhw’n helpu’r llywodraeth, yr awdurdodau iechyd a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Dyma'r ystadegau am faint o bobl oedd yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011.
Siaradwyr Cymraeg yn ôl awdurdod lleolErs cyhoeddi’r ystadegau, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi bod y Llywodraeth eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Meddai Carwyn Jones,
"Mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl - y siaradwyr Cymraeg ar draws y wlad, boed yn siaradwyr rhugl, yn siaradwyr llai hyderus neu'n ddysgwyr. Mae angen i ni barhau i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr. Mae ein hiaith yn dylanwadu ar gerddoriaeth, storïau, traddodiadau a bywyd bob dydd.”
Ond …
Sut mae cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn?
Sut mae ysbrydoli mwy o bobl i siarad Cymraeg?
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| cynyddu | codi | (to) increase |
| hollbwysig | pwysig iawn, iawn | all-important |
| adnodd | ffurf unigol adnoddau - cyfoeth; cyflenwad o rywbeth neu bobl | resource |
| boed | os | whether |
| difyr | sy'n rhoi difyrrwch | entertaining |