Enw: Daf Wyn (ond Dafydd Wyn Rees sydd ar y pasbort!)
Byw: Caerdydd
Dod o: Llandudoch, ger Aberteifi
Ysgol: Ysgol Uwchradd Aberteifi
Diddordebau: Cymdeithasu gyda ffrindiau, rhedeg, canu, mynd ar antur
Gwaith: Gweithio i gwmni Tinopolis
Teitl y swydd: Cyflwynydd a gohebydd
Dyletswyddau yn y gwaith:
Gwaith blaenorol: Gweithio yn Siop Tresaith yn ystod gwyliau’r ysgol a gwyliau’r brifysgol – “Lle braf iawn ac mae gen i atgofion melys am y lle!” meddai Dafydd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cyflwynydd | rhywun sy’n cyflwyno rhaglen ar y teledu | presenter |
gohebydd | rhywun sy’n anfon newyddion ac eitemau i raglen deledu | journalist |
tîm cynhyrchu | y tîm sy'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglen deledu | production team |
ymchwilio | chwilio am wybodaeth | (to) research |
trosleisio | recordio llais i fynd gyda ffilm | (to) voiceover |
blaenorol | cyn hyn | previous |