Y Dyn Talaf Erioed

Rhifyn 46 - Loteri Bywyd
Y Dyn Talaf Erioed
Darn Gwybodaeth

Y person sy’n dal y record byd am fod y talaf yn y byd yw gŵr o’r enw Robert Pershing Wadlow, o Illinois yn Unol Daleithiau America.

Roedd yn mesur 272 cm, neu 8 troedfedd, 11.1 modfedd.  Oherwydd ei fod yn byw gyda chyflwr oedd yn gwneud iddo dyfu yn anarferol o gyflym a thal o gymharu â phobl gyffredin, roedd yn dioddef gyda’i iechyd.  Enw’r cyflwr yw ‘cawraeth’.

Cafodd Robert Wadlow ei eni ym 1918 a bu farw yn ifanc iawn oherwydd ei gyflwr, yn 22 mlwydd oed, ym 1940.  Am gyfnod bu’n ymddangos mewn syrcas ac yn ddiweddarach aeth ar ei liwt ei hun i wneud ymddangosiadau cyhoeddus lle roedd pobol yn tyrru i ryfeddu ar ei daldra.  Mae’n debyg fod ganddo gryfder anarferol yn sgil ei faint ac y gallai felly godi pethau cymharol drwm neu blygu metel, er enghraifft.

Dyma lun ohono yn sefyll gyda’i dad Harold Franklin Wadlow oedd yn mesur 5 troedfedd ac 11 modfedd o daldra.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cawraeth cyflwr meddygol sy'n golygu eich bod yn tyfu yn llawer mw na bod dynol arferol gigantism
ar ei liwt ei hun mynd i weithio dros eich hun freelance