Heia Cats! Sut wyt ti’n cadw? Rwyf wir yn edrych mlaen i dy weld di a’r ffrindiau eraill o’r pentref pan ddof fi adre mewn 3 mis.
Roedd daeargryn arall yma ddoe, 3.9 ar y raddfa Richter. Y raddfa Richter yw’r ffordd o fesur cryfder daeargryn o 0-10, ac mae gwyddonwyr yn defnyddio teclyn o’r enw ‘Seismometer’ i’w mesur. Mae daeargrynfeydd sy’n mesur 1 neu 2 ar y raddfa Richter yn gyffredin iawn ac yn digwydd bob dydd mewn llefydd fel San Francisco yn America. Nid yw pobl yn teimlo’r rhain fel arfer, ond mae gwyddonwyr yn gallu eu mesur ar y seismometer. Mae daeargrynfeydd sydd yn mesur 7, 8 neu 9 yn ddinistriol dros ben. Mae gwledydd tlotach fel arfer yn cael eu taro’n waeth gan ddaeargrynfeydd mawr gan nad oes ganddynt y dechnoleg na’r adnoddau i fonitro, darogan ac ymateb i ddaeargrynfeydd. Oeddet ti’n gwybod fod daeargryn 7 ar y raddfa Richter wedi lladd 316,000 o bobl yn Haiti yn 2010? Achosodd y daeargryn yma 13.2 biliwn o ddoleri o ddinistr. Gan fod Haiti yn wlad dlawd iawn, mae hi wedi bod yn arbennig o anodd i’r wlad adfer ar ôl y ddaeargryn hon.
Mae Siapan wrth gwrs yn wlad hynod gyfoethog o’i chymharu â Haiti. Felly, er mai Siapan yw’r wlad sy’n wynebu’r peryglon mwyaf o ddaeargrynfeydd, hi hefyd sydd â’r system rybuddio orau yn y byd, a gall hyn achub miloedd o fywydau. Maent hefyd yn gallu defnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu sydd i fod i wrthsefyll effeithiau daeargrynfeydd.
Rwy’n dechrau dod i arfer â’r holl ysgwyd erbyn hyn ond maen nhw’n dal i fy wneud i’n nerfus. Tan iddo basio, nid oes modd gwybod pa mor wael fydd ei effaith, felly mae’n rhyddhad mawr ar ddiwedd pob un! Mae’n debyg fod risg uchel o ddaeargryn anferth ar 8 neu 9 ar y raddfa Richter yn ninas Tokyo am nad oes un mor fawr â hynny wedi bod ers 1923.
Pan gyrhaeddais i yma ar ddechrau fy mlwyddyn gap, ces fynd i’r ‘Tokyo Rinkai Disaster Prevention Park’ i ddysgu am hanes daeargrynfeydd yn Siapan a sut orau i oroesi un pe bai’n digwydd taro. Dysgais fod pob adeilad yn y ddinas yn cael ei adeiladu yn bwrpasol i allu gwrthsefyll daeargrynfeydd. Y profiad gorau a’r mwyaf brawychus o’r ymweliad oedd mynd mewn i fodel o gartref lle cefais brofi’r stafell yn ysgwyd fel petai daeargryn 8 ar y raddfa Richter. Galla’ i ddweud un peth wrtho ti, os taw daeargryn o radd 7 Richter yw e, byddi di’n sicr o’i theimlo! Yn Siapan, mae pawb yn dysgu yn ifanc iawn sut i ymddwyn mewn argyfwng. Felly, os byddi di byth yn dod i Siapan ac yn clywed y larwm Daeargryn gwna’r canlynol:
Reit, felly dyna ti yn barod ar gyfer pob argyfwng!
Mae fy ngwers Siapaneg yn cychwyn mewn awr felly well i mi fynd i baratoi. Yna byddwn ni’n mynd i fwyty Sushi i gael swper, ffili aros!
Edrych mlaen at glywed wrthot ti,
Mel xxx
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
daeargrynfeydd | pan mae’r ddaear yn crynu oherwydd fod platiau tectonig o dan y môr yn symud. | earthquakes |
gwrthsefyll | gallu parhau i sefyll er gwaethaf grymoedd mawr | withstand |
dymchwel | pan fo rhywbeth o faint mawr yn disgyn i'r llawr | collapse |