Mynd yn bananas

Rhifyn 50 - Rhyfedd o fyd
Mynd yn bananas

24 Tachwedd, 2017

Roedd heno’n hollol bananas! Ces i amser ffantastig!

Es i i’r ysgol erbyn chwech o’r gloch i helpu achos roedd Noson Bananas yno – noson i geisio perswadio pobl i ailgylchu bwyd. Criw Blwyddyn 8 oedd wedi trefnu’r noson gan ein bod ni wedi bod yn trafod ailgylchu ers dechrau’r tymor. (Aethon ni i’r ganolfan ailgylchu bwyd ar Hydref 14 – diddorol iawn!)

Ers i Miss Evans awgrymu’r noson, felly, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed yn trefnu. Rydyn ni wedi bod yn gwneud posteri, yn siarad ar y radio lleol ac yn paratoi gweithgareddau diddorol ers wythnosau ac mae pawb wedi mwynhau gwneud hyn! (Trueni ein bod ni ddim yn gwneud rhywbeth fel hyn bob dydd!)

Roedd hi’n noson ardderchog. Agorodd y Pennaeth y noson drwy ddweud pa mor bwysig yw ailgylchu bwyd. Yna, daeth Y Bobl Wirion (Band Blwyddyn 11) i ganu cân am fynd i rywle ar gwch banana (doedden nhw ddim yn dda iawn – dw i ddim yn hoffi’r band o gwbl!). Ar ôl iddyn nhw orffen, aeth pawb i ymweld â stondinau gwahanol, e.e. i yfed ysgytlaeth banana (blasus iawn!) ar y stondin ddiodydd, i fwyta cacennau banana (blasus iawn, iawn!) ar y stondin gacennau, i ddawnsio gwerin yn y neuadd (roedd rhai o’r staff yn edrych yn ddoniol iawn!), i gymryd rhan mewn cystadlaethau fel “Sawl banana sydd yn y bocs?” a rasys bananas (oedd, roedd y bananas yn rasio!) a llawer o bethau eraill. Ac wrth gwrs, roedd pawb yn gwisgo dillad melyn neu wisg banana. Ar ddiwedd y noson, cyhoeddodd Miss Evans pwy oedd wedi ennill y gystadleuaeth gwisg ffansi – Matt! Roedd o’n edrych yn rhyfedd iawn, iawn. Bydd pawb yn tynnu ei goes e yfory, mae’n siwr!

Oeddech chi'n gwybod?

Oeddech chi’n gwybod bod pobl wedi bod yn gwisgo fel bananas ar hyd a lled Cymru y llynedd? Cliciwch yma i weld y lluniau ac i ddarllen yr hanes:

http://www.recycleforwales.org.uk/cy/news/2017-02-24-tirnodau-cymru-yn-hollol-bananas-dros-ailgylchu-bwyd