Mae rhai pobl yn gaeth i’w ffonau symudol.
Mae rhai ohonyn nhw mor gaeth, maen nhw’n poeni am golli eu ffôn neu maen nhw’n poeni fyddan nhw ddim yn gallu defnyddio’u ffôn am ryw reswm, e.e. oherwydd bod dim signal. Maen nhw’n dioddef o ‘nomoffobia’ (no-more-phone-ia). Ystyr ‘ffobia’ yw ofn afresymol.
Mae angen help ar y bobl hyn – help i fedru byw heb eu ffôn!
… A dyma’r help!
Mae dyn o’r enw Klemens Schillinger wedi dyfeisio ffôn arbennig iawn. Mae e'r un maint â ffôn symudol arferol ond mae e’n wahanol iawn!
Dydy e ddim yn gallu gwneud unrhyw beth technolegol ond mae e’n gallu helpu pobl sydd eisiau defnyddio’r ffôn yn llai aml. Mae e’n gallu helpu pobl i fod yn llai caeth i’w ffonau.
Yn lle sgrolio a sweipio ar ffôn go iawn, mae’r bobl yma’n gallu sgrolio a sweipio’r peli bach cerrig sydd yn y ffôn yma ac mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Mae hyn yn therapi diddorol iawn ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef o nomoffobia!
Cliciwch yma os hoffech chi weld sut i ddefnyddio’r ffôn.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
yn gaeth i | methu dod yn rhydd o afael rhywbeth | addicted to |
gerllaw | yn agos | nearby |
afresymol | heb reswm | irrational |
galwadau | lluosog galwad; pan fydd rhywun yn eich ffonio | calls |
lawrlwytho | llwytho i lawr | (to) download |
cysylltu | rhoi mewn cysylltiad â | (to) connect |