Mae Lucas a Sofia, ffrindiau ysgol, yn siarad ar y stryd.

Sofia:

Beth wyt ti'n wneud?

Lucas:

Dw i'n mynd i loncian.

Sofia:

Ond pam wyt ti’n gwisgo menig ac yn cario bag sbwriel du?

Lucas:

Achos dw i’n mynd i wneud ychydig o blogio.

Sofia:

Plogio?

Lucas:

Ie, plogio! Hobi newydd o Sweden yw e, er bod pobl mewn rhannau eraill o’r byd yn ei wneud e erbyn hyn hefyd.

Sofia:

Beth yw ystyr "plogio" ’te?

Lucas:

Loncian a chodi sbwriel yr un pryd. Dyna pam dw i’n gwisgo menig ac yn cario bag sbwriel du. Os bydda i’n gweld sbwriel ar y ddaear wrth i fi redeg, bydda i’n ei godi e ac yn ei roi e yn y bag.

Sofia:

O!

Lucas:

Mae'n ymarfer da.

Sofia:

Wel, ydy, mae rhedeg yn dda i ti. Mae’n cryfhau dy goesau di ac yn dda i dy gorff di’n gyffredinol.

Lucas:

Ydy, ond gan fy mod i’n cario sbwriel, bydda i’n cario ychydig o bwysau hefyd, sy’n golygu fy mod i’n cael gwell ymarfer corff! Bydda i’n gwneud sgwatiau wrth i fi blygu i godi sbwriel hefyd. Mae hyn yn wych!

Sofia:

Ydy, mae’n siŵr.

Lucas:

Ac mae’n gwneud i fi deimlo’n dda hefyd achos dw i’n helpu’r amgylchedd. Dw i’n gwneud rhywbeth sy’n dda i fi ac sy’n dda i’r amgylchedd.

Sofia:

Beth wyt ti’n wneud gyda’r pethau rwyt ti’n casglu?

Lucas:

Dw i’n ailgylchu rhai pethau ac yna dw i’n taflu’r gweddill yn y bin sbwriel. Wyt ti eisiau dod gyda fi yfory?

Sofia:

Dw i ddim yn siŵr.

Lucas:

Dwyt ti ddim yn poeni am yr amgylchedd ’te?

Sofia:

Ydw, wrth gwrs! Dw i’n cymryd rhan yn ymgyrch y pentre i glirio’r traeth bob blwyddyn, felly dw i’n gwneud fy rhan.

Lucas:

Wyt, chwarae teg – ond mae loncian a chlirio’n hwyl – ac mae’n dod yn fwy poblogaidd bob dydd. Edrycha ar faint o bobl sy’n postio lluniau ohonyn nhw eu hunain yn gwneud hyn ac mae rhai’n trydar yn gofyn am bobl i fynd allan i loncian gyda nhw.

Sofia:

O, iawn – wela i di yma yfory ’te, am ddeg o’r gloch, a bydd gen i fag sbwriel enfawr i godi’r holl sbwriel!

Lucas:

Gwych. Tan yfory, felly …

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
loncian rhedeg yn araf (to) jog, jogging
amgylchedd y byd o gwmpas environment
ailgylchu defnyddio rhywbeth eto; troi gwastraff yn rhywbeth mae'n bosib ei ddefnyddio eto (to) recycle, recycling
llesol sy'n gwneud daioni beneficial
gweddill beth sydd ar ôl the rest, remainder
ymgyrch pobl yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwneud rhywbeth penodol campaign
gwneud fy rhan gwneud cyfraniad (to) do my bit