Trosiad yw torri calon i ddisgrifio’r pwysau emosiynol ofnadwy y mae’r corff yn ei deimlo o golli rhywbeth neu rywun y maen nhw'n caru. Mae pobl ar draws y byd wedi bod yn sôn am dorri calon ers canrifoedd lawer. Mae pobl sy’n torri calon yn gallu teimlo:
Symptomau eraill:
Mewn chwedlau, mae sôn am gymeriadau’n marw o dor calon. Dyna i chi stori Nant Gwrtheyrn, lle mae Rhys, y priodfab, yn torri ei galon yn syth wrth droed y goeden dderwen lle daeth o hyd i sgerbwd ei gariad, Meinir. Yn y Mabinogi wedyn, mae Branwen, chwaer Bendigeidfran, yn torri ei chalon yn Iwerddon wrth gael ei cham-drin gan ei gŵr a’i deulu.
Fel arfer, mae tor calon yn cael ei ddangos ar ffurf calon a saeth Cupid yn torri drwyddi. Ffigwr o fytholeg glasurol yw Cupid, duw cariad a chwant, oedd fel arfer yn cael ei ddisgrifio fel bod mewn cariad gyda Fenws, sef duwies cariad. Roedd yn cario bwa a saeth. Byddai’n defnyddio’r saethau i danio cariad yng nghalonnau pobl.
https://en.wikipedia.org/wiki/File:Eros_bow_Musei_Capitolini_MC410.jpg
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
trosiad | cymharu rhywbeth heb ddefnyddio'r gair 'fel' | metaphor |
emosiynol | yn gysylltiedig â'r emosiynau a'r teimladau | emotional |
mytholeg | straeon neu chwedlau traddodiadol | mythology |