Symbolau a theimladau

Rhifyn 53 - Y Galon
Symbolau a theimladau

Mae symbol y ❤️ yn un cyfarwydd ar hyd a lled y byd ac fel arfer mae'n cael ei gysylltu â chariad.

'Slawer dydd, roedd pobl yn meddwl bod symbol y ❤️:

  • wedi ei seilio ar siâp deilen iorwg. Roedd iorwg yn arfer cael ei ystyried fel symbol o ffrwythlondeb
  • wedi ei seilio ar siâp corff merch – y bronnau neu’r pen-ôl efallai!

Ond, y gred fwyaf rhyfedd oedd y sôn am symbol y ❤️ yn debyg i blanhigyn silphium. Roedd y planhigyn hwn yn tyfu ar arfordir Gogledd Affrica adeg y Groegiaid a’r Rhufeiniaid. Roedd silphium yn cael ei ddefnyddio:

  • fel moddion – yn enwedig peswch
  • i roi blas ar fwyd
  • fel dull o atal cenhedlu!

Yn ddiweddarach, defnyddiodd yr arlunydd Leonardo Da Vinci symbol y ❤️ wrth beintio llawer o’i luniau.

Oeddech chi’n gwybod hefyd fod y gair ❤️ yn cael ei ddefnyddio dros 1,000 o weithiau yn y Beibl!

Ydych chi wedi meddwl pam bod y ❤️ yn cael ei chysylltu â chariad?

Wel, yn ôl yr hanes, roedd y GROEGIAID yn credu mai’r ❤️ oedd cartref yr ysbryd.

Roedd y TSEINÏAID yn credu mai'r ❤️ oedd yn gwneud i chi deimlo'n hapus.

Roedd yr EIFFTIAID yn credu bod emosiwn a doethineb yn dod o’r ❤️.

Wedyn, daeth PLATO, yr athronydd, oedd yn credu ein bod yn defnyddio’r ymennydd i feddwl ond bod cariad yn dod o’r ❤️.

OND PWY OEDD YN GYWIR?

BETH SYDD GAN Y GWYDDONWYR I’W DDWEUD?

Yr ymennydd sy’n rheoli’r ❤️, felly mae’r ymennydd yn gallu anfon negeseuon i’r corff i ddweud sut i deimlo. Dyna pam mae’r corff yn gallu teimlo:

Felly, NID y ❤️sy’n gwneud i ni deimlo fel hyn!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
symbol llun sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos syniad symbol
iorwg eiddew, planhigyn â dail gwyrdd tywyll sy'n hoff o ddringo ivy
ffrwythlondeb pan fydd rhywbeth yn tyfu'n dda ac yn creu bywyd newydd fertility
arfordir glan y môr coast
athronydd person sy'n meddwl ac yn ceisio gwneud synnwyr o'r byd o'i gwmpas philosopher