Ysgol Gyfun y Llan
Llan-aber
Ceredigion
SA89 6TT

Y Cyfarwyddwr
Dylunio Dawnus
Llan-aber
Ceredigion
SA67 5YF

12 Mai 2018

Annwyl Mr Williams,

Ysgrifennaf ar ran pwyllgor Gŵyl Gwylanod yr ysgol i ddiolch i chi am eich cefnogaeth i’r ŵyl, 5-7 Mai. Diolch i’ch cefnogaeth chi a busnesau a mudiadau lleol eraill, a, diolch i roddion gan bobl oedd yn methu dod i’r penwythnos, llwyddom i godi dros £20 000 i’r hosbis leol.

Credaf fod pawb wedi mwynhau’r ŵyl yn fawr. Roedd y sesiwn bandiau yn y Neuadd nos Wener yn gyffrous tu hwnt ac roedd hyn yn gyfle gwych i roi llwyfan i leisiau newydd yr ardal. Roedd hi’n amlwg fod digon o hwyl i’w gael ar y dydd Sadwrn hefyd, gyda’r plant yn gwneud gweithgareddau amrywiol ar y traeth yn yr heulwen braf a’r bobl ifanc a’r oedolion yn mwynhau gwahanol gystadlaethau morol, heb sôn am y stondinau crefftau a bwyd y môr a oedd ar hyd yr harbwr. Trueni bod y tywydd wedi ein gorfodi i symud llawer o’r gweithgareddau o’r harbwr a’r traeth i’r ganolfan hamdden ar y dydd Sul ond diolch byth ein bod wedi cynllunio ar gyfer pob math o dywydd!

Bydd darn am yr ŵyl ar S4C yn y dyfodol agos. Byddaf yn rhoi gwybod i chi pryd yn union pan gaf y wybodaeth oddi wrth y cwmni fydd yn darlledu.

Mae fy nghyd-ddisgyblion a minnau wedi mwynhau trefnu’r ŵyl yn fawr ac rydym wedi cael llawer o brofiadau gwerthfawr wrth wneud hyn. Roedd cael cefnogaeth busnesau lleol fel chi yn help mawr. Felly, diolch unwaith eto.

Yn gywir,

Lee Evans

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ar ran dros bobl eraill on behalf of
mudiadau lluosog mudiad; grwpiau o bobl sy'n rhannu'r un syniad ac sydd, o bosib, yn ceisio cydweithio movements
amrywiol gwahanol fathau varied
darlledu dangos ar y teledu (to) broadcast
fy nghyd-ddisgyblion y disgyblion eraill my fellow pupils