Gall ECLIPS ddigwydd gyda’r haul a’r lleuad. Enw arall arno yw DIFFYG. Maen nhw’n ddigwyddiadau cyffrous ac fel arfer maen nhw'n denu llawer o sylw.

Mae ECLIPS ar yr haul yn digwydd pan fydd y lleuad yn pasio’n uniongyrchol rhwng y Ddaear a’r haul gan guddio golau’r haul am ychydig funudau.

Mae Eclips ar y lleuad yn digwydd pan fydd y Ddaear yn pasio’n uniongyrchol rhwng y lleuad a’r haul.

CLECS CYMRU

ECLIPS GWEFREIDDIOL YN CYFFROI'R MILIYNAU

Cafodd miliynau o bobl ar hyd a lled Prydain a gogledd Ewrop y cyfle i weld yr Eclips gorau ar yr haul ers blynyddoedd lawer fore ddoe.

Dechreuodd y cysgod dwfn ffurfio dros ogledd Môr yr Iwerydd gan weithio’i ffordd i fyny tua Phegwn y Gogledd, gyda’r eclips cyflawn yn digwydd dros Brydain am 9.41 y bore.

Roedd y cyfan yn edrych fel petai rhywun wedi cnoi darn o’r haul i ffwrdd, a’r darn hwnnw’n mynd yn fwy ac yn fwy wrth i olau dydd ddiflannu. Wrth i’r haul ddiflannu i siap cilgant, neu fanana, roedd teimlad fel petai storm ar fin digwydd. Yna, doedd dim i’w weld ond yr haul fel disg mawr du yn yr awyr. Stopiodd yr adar ganu, caeodd y blodau eu petalau a dechreuodd yr anifeiliaid feddwl fod y nos wedi dod wrth i oleuadau’r stryd ddod ymlaen.

Cafodd y rhai oedd yn awyddus i gael golwg ar y ffenomenon anghyffredin eu cynghori i beidio ag edrych i fyny’n uniongyrchol ar yr eclips. Yn ôl yr arbenigwyr, gallai gwneud hynny arwain at niwed difrifol i’r llygaid. Felly, y cyngor oedd edrych arno drwy daflunydd twll pin, sy’n gallu dilyn llwybr yr haul ar ddarn o bapur.

Ym mhob rhan o Brydain, cafwyd eclips o 83%, gyda’r haul ar ei dywyllaf tua 9.35 y bore. Roedd amseriad yr eclips yn amrywio o ran lleoliad. Ar Ynysoedd y Shetland, roedd yr eclips ar ei eithaf am 9.43 y bore, a hwnnw’n eclips cyflawn bron, gyda 97% o’r haul wedi’i guddio.

I’r rhai hynny oedd dan awyr gymylog, roedd hi’n bosib dilyn yr eclips ar y we. Roedd gan nifer o asiantaethau gwyddonol awyrennau a lloerennau yn yr awyr yn cofnodi’r holl ddigwyddiad ac yn dangos y cwbl ar raglenni teledu ac ar y we.

21 Mawrth 2015

Ar y cyfan, cafodd y rhan fwyaf o bobl Prydain olygfa dda o’r eclips, heblaw am rannau o ogledd ddwyrain Lloegr a Llundain. Yno, y cyfan oedd i’w weld oedd diwrnod gweddol lwyd yn troi’n dywyllach.

Allan ym môr Norwy, ychydig o dan Begwn y Gogledd, y gwelwyd yr eclips ar ei eithaf, gyda’r tywyllwch yno’n parhau am dair munud am 9.46 y bore.

Er y bydd eclips yr haul yn digwydd eto mewn rhannau eraill o’r byd y flwyddyn nesaf, yn 2026 y disgwylir yr eclips nesaf ar yr haul ym Mhrydain, ond fydd yr eclips llwyr nesaf ddim tan y 23 o Fedi 2090. Serch hynny, bydd eclips o’r lleuad yn digwydd ym Mhrydain yn ystod mis Gorffennaf 2018, o gwmpas y 27ain a’r 28ain o’r mis.

Bydd eclips yn digwydd unwaith bob 18 mis rywle yn y byd. Ond, dim unwaith bob 360 o flynyddoedd y bydd eclips llwyr yn digwydd yn yr un lle. Y tro diwethaf i eclips llwyr ddigwydd ym Mhrydain oedd ar 29ain o Fehefin 1927, ac er ei bod hi’n gymylog roedd Dinbych, Caernarfon, Cricieth a Bermo ymysg yr ardaloedd gafodd eu plymio i dywyllwch llwyr bryd hynny.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ffenomenon rhywbeth y mae rhywun wedi'i weld yn digwydd phenomenon
anghyffredin rhywbeth nad yw'n digwydd yn aml unusual / rare
uniongyrchol yn syth directly
binocwlars teclyn â lens arbennig i helpu gweld pethau pell yn agos binoculars
taflunydd twll pin bocs cardfwrdd a thwll bach ynddo i adael golau i mewn iddo er mwyn gallu tracio'r haul pinhole projector
asiantaethau grwpiau sy'n gwneud rhyw waith arbennig agencies