Y Bleidd-ddyn a'r Lleuad lawn

Rhifyn 55 - Bodolaeth Dan yr Haul
Y Bleidd-ddyn a'r Lleuad lawn
Ydych chi wedi gweld un o'r rhain o'r blaen?

 

 

A beth am un o'r rhain?

 

 

Ydych chi wedi gweld y ddau ar yr un pryd?

WAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA!

BLEIDD-DDYN

Creadur chwedlonol yw’r bleidd-ddyn. Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel person digon cyffredin, ond mae’n gallu newid ei siâp o ffurf dyn i ffurf blaidd neu fwystfil sy’n edrych fel blaidd. Gall ddewis gwneud hynny drwy daro bargen â’r Diafol, neu gall y newid ffurf ddigwydd ar ôl i berson gael ei gnoi gan flaidd-ddyn arall.

RHYBUDD: fel arfer, adeg lleuad lawn mae hynny’n digwydd!

Ond beth yw’r cysylltiad rhwng bleidd-ddynion a lleuad lawn?

Wel, mae digon o syniadau wedi eu cynnig dros y blynyddoedd, gan arwain at ein cred ni heddiw fod cysylltiad uniongyrchol rhwng troi’n fleidd-ddyn a’r lleuad lawn.

Ond beth am fynd nôl i oes yr hen Roegiaid. Roedden nhw wedi sylwi fod disgyrchiant y lleuad yn gallu effeithio ar lanw a thrai’r môr. Aethon nhw â’r syniad ymhellach gan awgrymu y gallai’r lleuad effeithio ar feddwl person hefyd gan fod yr ymennydd yn cynnwys rhywfaint o leithder. Roedden nhw’n credu y gallai person cwbl normal gael ei wneud yn wallgo, honco bost, cwbl dwl-lal gan y lleuad! Roedd yr athronwyr Aristotle a Hippocrates yn credu hynny hefyd. Dyna pam roedd duwies Roegaidd y lleuad, Selene, yn cael ei phortreadu fel rhywun gwyllt ac anwadal a fyddai’n dawnsio’n wallgo yn y goedwig.

Cofiwch, erbyn heddiw, mae gyda ni dystiolaeth, nid dim ond theorïau i ddangos sut mae lleuad lawn yn gallu effeithio ar bobl. AC MAE LLEUAD LAWN YN GALLU EFFEITHIO AR BOBL! Mae hyd yn oed adrannau brys ysbytai’n gallu bod yn fwy prysur adeg lleuad lawn!

Cymerwch ofal, felly!

STRAEON

Mae straeon am fleidd-ddynion i’w cael dros y byd, ac mae llu o ffilmiau amdanyn nhw wedi eu creu dros y blynyddoedd hefyd. Yn Ewrop, y gred yw mai dynion drwg yw’r bleidd-ddynion. Dyma ddisgrifiad o’r bleidd-ddyn:

  • aeliau sy’n cwrdd ar bont y trwyn
  • ewinedd crwm
  • clustiau wedi’u gosod yn isel
  • yn brasgamu
  • llygaid a llais dynol
  • dim cynffon
  • cryf
  • yn bwyta cyrff y meirw.

Mae llawer o straeon am fleidd-ddynion yng Nghymru. Beth am ddarllen un neu ddwy ohonyn nhw?

Bleidd-ddyn Gwenfo

Un tro, roedd bachgen ifanc yn byw yn ardal Coed y Cymdda ar bwys Gwenfo. Er ei fod e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â merch o bentref Tregatwg gerllaw, penderfynodd briodi merch arall, gan dorri calon ei gariad cyntaf.

Heb yn wybod i’r bachgen, roedd ei gariad cyntaf yn nith i wrach. O weld ei nith mor ddigalon, penderfynodd y wrach ddial ar y bachgen. Felly, ar noson ei briodas, rhoddodd y wrach ei gwregys ar garreg drws cartref y priodfab. Byddai’n rhaid i unrhyw un oedd yn mynd i mewn ac allan o’r tŷ gamu dros y wregys honno. Wrth i’r priodfab a’r briodferch gamu i mewn i’r tŷ noson y briodas, cafodd y bachgen ei droi’n fleidd-ddyn a rhedodd i ffwrdd i guddio yng Nghoed y Cymdda gerllaw.

Bob nos ar ôl hynny, byddai’r bleidd-ddyn yn mynd o’r goedwig i gartref y wrach ac yn udo’n swnllyd o gwmpas y lle. Byddai’n codi ofn ar bawb yn yr ardal, ac roedd ei wraig newydd mor drist ynglŷn â’r holl beth nes iddi farw’n ifanc.  

Roedd y wrach yn benderfynol o gael y bachgen yn ŵr i'w nith, felly aeth ati unwaith eto i drawsnewid y bleidd-ddyn  yn ôl yn ddyn drwy daflu croen oen wedi'i swyno drosto.

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Pan sylweddolodd y wrach pa mor wael roedd y bachgen yn trin ei nith, penderfynodd ei droi’n fleidd-ddyn unwaith eto. Bu farw'r wrach ac nid oedd neb yn y byd yn gallu dadwneud ei gwaith. Treuliodd y bleidd-ddyn naw mlynedd yn y coed cyn iddo gael ei saethu'n ddamweiniol a dod ag arswyd ardal Gwenfo i ben.

Bleidd-ddyn Gresffordd

Rhyw fore oer yn ystod gaeaf 1791, roedd ffermwr o blwyf Gresffordd yn ardal Wrecsam yn bugeilio'i ddefaid pan welodd olion traed blaidd anferth yn yr eira. Cafodd dipyn o sioc a phenderfynodd y byddai’n rhaid iddo wneud rhywbeth os oedd am gadw’i ddefaid yn ddiogel. Felly, gofynnodd i'r gof lleol ddod yn gwmni iddo i ddilyn trywydd y blaidd.

Dilynodd y ddau’r olion ar hyd y caeau gan ddod i dir cymydog. Yno, fe welon nhw olygfa erchyll. Roedd cyrff defaid a gwartheg dros y lle ym mhob man a’r eira’n goch gan waed. Rhedodd y ddau draw at y ffermdy, ond roedd hwnnw’n dywyll, felly dyma nhw’n trio’u gorau i edrych drwy’r ffenestri. Yno, fe sylwon nhw fod eu cymydog yn cuddio o dan fwrdd y gegin.

Rhedodd y ddau i mewn i’r tŷ i weld beth oedd yn bod. Dyna pryd y dechreuodd ar ei stori. Roedd e wedi bod o gwmpas y caeau y noson cynt pan welodd fwystfil anferth tebyg i flaidd yn rhuthro am ei gi gan rwygo'i wddw a’i ladd ar unwaith. Rhedodd y cymydog i ffwrdd am ei fywyd a mynd i guddio yn y ffermdy. Teimlodd y bwystfil yn hyrddio'i hun yn erbyn drws y tŷ nes bod yr holl le'n crynu. Ar ôl symud y dodrefn yn erbyn y drws aeth i guddio dan y bwrdd ond gallai weld y bwystfil yn syllu arno drwy'r ffenestr. Er mai pen blaidd oedd ganddo roedd ei lygaid gleision yn debycach i rai person go iawn. Sylweddolodd ar unwaith mai bleidd-ddyn oedd wrth y drws.  Pan ddeallodd y bleidd-ddyn na allai gael gafael ar y ffermwr, aeth i ddial ar y gwartheg a'r defaid y tu allan, cyn diflannu i’r nos.

Ond nid dyna’r tro cyntaf na’r olaf i fleidd-ddyn gael ei weld yn ardal Gresffordd, yn ôl y sôn!

Y gred mewn straeon diweddar ers y 19eg ganrif yw ei bod hi’n bosib anafu a lladd bleidd-ddynion trwy ddefnyddio arfau wedi’u gwneud o arian. Yn wahanol i fampirod, all bleidd-ddynion ddim cael eu heffeithio gan arteffactau crefyddol neu ddŵr cysygredig, fel yn achos fampirod.

Ond, os wyt ti wir eisiau cadw bleidd-ddynion draw, mae rhai pobl yn credu ei bod hi’n bosib defnyddio rhyg, uchelwydd, criafol a llysiau’r blaidd (Aconitum napellus) i wneud hynny.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arteffactau gwrthrych sydd wedi cael ei greu gan ddyn artefacts
rhyg math o gnwd grawn, fel llafur neu farlys rye
uchelwydd planhigyn â dail gwyrdd fel lledr ac arno aeron gwyn yn y gaeaf mistletoe
criafol math o goeden rowan