Heb Haul, Heb Ddim!
Pwysigrwydd yr haul a’r lleuad i’n bodolaeth
Does dim yn fwy pwysig i’n bodolaeth ni ar y Ddaear na’r haul. Meddyliwch am y peth: heb wres a golau’r haul, beth fyddai’r Ddaear?

Ie, dyna ni, pelen o graig dan haenen o ia! Fyddai neb na dim yn gallu byw ar y Ddaear wedyn! Heb yr haul, fyddai’r Ddaear ddim wedi gallu ffurfio o gwbl!
Ond, beth mae’r haul yn ei wneud felly?

Yr haul YW bywyd ar y Ddaear.
A beth am y lleuad?
Yn y nos, y lleuad, nid yr haul sydd i’w gweld yn yr awyr. Lloeren yw’r lleuad – math o asteroid – sy’n troi o gwmpas y Ddaear. Mae’r lleuad 384,403km i ffwrdd o’r Ddeaer ac mae’n troi o gwmpas y Ddaear unwaith bob 27.5 diwrnod.

Heb leuad, heb …
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| Cysawd yr Haul | wyth planed wedi'u trefnu yn nhrefn eu pellter o'r Haul | Solar System |
| atmosffêr | yr haenen o nwyon sy'n flanced o gwmpas y Ddaear neu blaned arall | atmosphere |
| ffotosynthesis | y broses sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion i droi golau'r Haul yn egni cemegol sy'n cael ei storio | photosynthesis |
| lloeren | rhywbeth yn y gofod sy'n troi o gwmpas planed | satellite |
| asteroid | corff bychan o graig sy'n troi o gwmpas yr Haul | asteroid |