Pan fyddwch chi'n clywed y geiriau hynny, beth sy'n dod i'ch meddwl chi?
Ond mae'r haul yn golygu rhywbeth arall i wahanol bobl ar draws y byd.
Mae’r haul yn gallu bod yn ffrind ac yn elyn i bobl ar draws y byd. Mae rhai gwledydd yn cael haul cyson drwy’r flwyddyn tra bod gwledydd eraill ond yn cael haul a gwres yn ystod yr haf a thywydd oer yn ystod y gaeaf. Gall faint o haul mae rhywle yn ei gael effeithio’n fawr ar fywyd pobl a’u hagwedd tuag at yr haul. Pan mae’r haul ar ei eithaf a’i fwyaf dinistriol, mae’n gallu achosi trychinebau fel:
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dinistrio | chwalu, torri, cael effaith ofnadwy ar rywbeth | (to) destroy |
trychinebau | digwyddiad ofnadwy o wael | disaster |
dadmer | toddi, pan fydd iâ neu rew yn troi'n ddŵr | melting |
ar ei eithaf | pan fydd rhywbeth ar ei fwyaf neu ei orau | at its most extreme |