Byw a bod gyda lloerennau

Rhifyn 55 - Bodolaeth Dan yr Haul
Byw a bod gyda lloerennau

Sgwrs Radio

   
Cyflwynydd: Helô, a chroeso i’r rhifyn arbennig hwn o’r rhaglen wyddonol ‘I’r Gofod’. Fy ngwestai arbennig heddiw yw’r arbenigwr ar y gofod, Deiniol Gwyndaf, un fu’n gweithio am bum mlynedd i gwmni NASA. Croeso, Deiniol.
Deiniol: Diolch yn fawr iawn.
Cyflwynydd: Nawr, efallai nad ydych chi, wrandawyr, fel finnau’n sylweddoli hynny’n iawn, ond mae pob un ohonon ni’n byw ein bywyd yn oes y gofod. Ydy hynny’n wir, Deiniol?
Deiniol: Wel, ydy. Er efallai nad ydyn ni’n mynd ar wyliau i’r lleuad eto, mae ein bywyd o ddydd i ddydd yn mynd i ddibynnu mwy a mwy ar y gofod – yn enwedig ar dechnoleg lloerennau. Mae llawer iawn o bethau yn ein byd ni heddiw’n dibynnu ar loerennau sydd wedi eu creu gan ddyn.
Cyflwynydd: Fedrwch chi roi enghreifftiau penodol o hynny i ni, Deiniol?
Deiniol: Wel, wrth gwrs. Mae’r enghreifftiau’n ddiddiwedd, ond fe allwn ni sôn yn benodol am bethau fel ein system deledu, y teclynnau yn ein ceir sy’n dangos y ffordd i ni, ein systemau ffôn a chyfathrebu, systemau ysbïo ac offer y byd milwrol. 

Ond efallai nad yw pawb yn sylweddoli fod eu ffônau symudol, y we, peiriannau arian, y farchnad stoc, heb sôn am lawer o ffermydd, y gwasanaethau brys a’r Grid Cenedlaethol i gyd yn dibynnu ar loerennau yn y gofod. Mae’r lloerennau yma’n anfon gwybodaeth i bob rhan o’r byd ac yn helpu pawb gyda’u gwaith a’u bywyd bob dydd.

Cyflwynydd: Hawyr bach! Mae’r lloerennau yma’n rheoli ein byd ni’n llwyr, felly?
Deiniol: Ydyn, wir.
Cyflwynydd: Ond beth fyddai’n digwydd petai pob lloeren yn stopio gweithio ac yn disgyn o’r awyr?
Deiniol:

O diar! Trychineb! Byddai’n ddiwedd y byd!

Nawr, dw i ddim yn siŵr os yw’r gwrandawyr wedi gweld y ffilm ffug-wyddonol Gravity? Wel, fe all y ffilm hon roi syniad o’r ateb i ni. Mae’r ffilm yn adrodd hanes dau ofodwr sy’n methu dod nôl i’r Ddaear o’r gofod am fod sbwriel o’r gofod wedi niweidio’u llong ofod.

Ar hyn o bryd, mae pob math o sbwriel yn hofran o gwmpas y lle yn y gofod – degau o filoedd o ddarnau yn cynnwys sgriws, ffleciau o baent ac hyd yn oed maneg gofodwr – a hynny ar gyflymder o hyd at 17,000 o filltiroedd yr awr. Gallai unrhyw un o’r rhain achosi difrod ofnadwy wrth daro yn erbyn rhywbeth arall.
Cyflwynydd:

Mae’r gofod yn lle peryglus felly?

Deiniol:

Wel, ydy. Mae’n gallu bod. Dychmygwch, felly, petai dwy loeren yn taro yn erbyn ei gilydd. Gallai’r lloerennau hynny dorri’n ddarnau, a’r darnau hynny wedyn yn taro’n erbyn lloerennau eraill. Dyna beth fyddai … trychineb! Gallai llawer o systemau cyfathrebu’r byd gael eu heffeithio – hyd yn oed y lloerennau sy’n uchel iawn yn yr awyr, fel rhai BSkyB a’r BBC.

Cyflwynydd:

Byddai’r byd ar stop felly?

Deiniol: Heb os. Dychmygwch ein defnydd ni o GPS, er enghraifft. System lloeren GPS yw’r hyn sy’n rhoi data i ni ar gyfer satnavs. Gall lloerennau ddangos yn union ble ry’n ni yn y byd ar unhryw adeg o’r dydd. Maen nhw’n gallu arbed llawer o amser i bawb yn eu bywyd bob dydd wrth ddangos y ffordd orau i fynd o un lle i’r llall. Mae’r lloerennau yma wedi helpu’r gwasanaethau brys yn arbennig ac yn bendant wedi achub bywyd llawer iawn o bobl.
Cyflwynydd: Sut fyddai pethau heb system lloeren GPS ’te, Deiniol?
Deiniol:

Heb system lloeren GPS, byddai awyrennau’n disgyn o’r awyr. Maen nhw wedi helpu i dorri i lawr ar y nifer o ddamweiniau awyrennau sy’n digwydd ac wedi helpu i ddod o hyd i unrhyw awyren sy’n cael damwain neu’n mynd ar goll.

Cyflwynydd:

Beth arall all GPS ei wneud i’n helpu ni?

Deiniol:

Wel, mae system lloeren GPS yn helpu byd ffermio hefyd. Gall satnav helpu ffermwyr i yrru eu tractorau pan mae’r tywydd yn niwlog neu’n stormus, neu yn ystod oriau’r nos. Gall lluniau lloeren hefyd ddangos i ffermwyr sut mae eu cnydau’n tyfu a ble mae sychder a llifogydd ar y tir.

Mae lloerennau yn gallu dangos hefyd ble mae pethau wedi eu cuddio o dan y ddaear – trysorau, hen adeiladau a hyd yn oed cyrff pobl sydd wedi eu llofruddio.
Cyflwynydd:

Diddorol iawn, wir, Deiniol. Diolch o galon i chi am ddod i mewn i’r stiwdio heddiw. Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi dysgu llawer am loerennau heddiw.

Felly, tan y tro nesaf, diolch am wrando a llygaid tua’r gofod, bawb!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
technoleg y peiriannau electronig sy'n helpu pethau i weithio technology
cyfathrebu y ffordd o gysylltu â phobl communication
milwrol yn perthyn i'r fyddin, yr awyrlu, y llynges ac ati military
y farchnad stoc lle i brynu a gwerthu arian, stociau ac ati the stock exchange
y gwasanaethau brys yr heddlu, y frigâd dân, y gwasanaeth ambiwlans ac ati the emergency services
y Grid Cenedlaethol y system sy'n cario trydan o gwmpas Prydain The National Grid
difrod niwed damage
sychder dim digon o law yn disgyn ar dir drought