Oes unrhyw un yn gallu fy helpu i os gwelwch yn dda? Dw i’n cael parti pen-blwydd wythnos nesaf a’r thema ydy “Siocled”. Oes gan unrhyw un syniadau am fwyd siocledaidd?
Brechdanau siocled …
Neis!
Crempogau siocled …
Neis!
Sbageti siocled
Na, dw i ddim yn meddwl - bydd o’n gwneud gormod o lanast. Dwyt ti ddim yn nabod fy ffrindiau i!!!
Creision siocled … neu, yn well byth, creision tsili a siocled …
Neis!
Cig moch wedi ei ddipio mewn siocled …
Www, neis!
Pizza siocled ...
Beth?!?!
Pizza siocled – blasus iawn. Gratia siocled yn lle caws ar y pizza ac yna galli di roi fferins bach ar y top. Blasus iawn.
Blasus, efallai, ond afiach. Byddai pizza melon dŵr efo ffrwythau ac ychydig o siocled yn iachach.
Sut mae gwneud un o’r rheina?
Wel, torra felon dŵr ar ei draws, rho ffrwythau a thipyn bach o iogwrt ar ei ben ac yna ychydig – a dw i’n pwysleisio ychydig – o saws siocled dros y ffrwythau. Dyma lun i ti.
Mae hwnna’n swnio’n flasus …
… ac yn iach … a gan ein bod ni’n sôn am fwyd iach, beth am frocoli wedi ei orchuddio â siocled?
Beth?!?!?
Mae’n ffordd dda o gael un o dy bum ffrwyth neu lysieuyn bob dydd.
Na, dim diolch.
Rhaid cael cacen siocled, wrth gwrs.
Mmm, blasus – cacen siocled efo eisin siocled … a hufen siocled yn y canol … a siapiau siocled ar y top i’w haddurno.
Wel, beth am am gacen ychydig yn iachach ...
Fel beth?
Cacen siocled a betys – mae’n iach …
Mmm?!?
… a beth am gacen siocled a banana – mae honna’n iach hefyd.
… a chacen moron a siocled.
Ie, wel … mmm … Dw i ddim yn siwr am ddefnyddio llysiau mewn cacen, rhaid i mi ddweud. Beth am … brownies siocled? Blasus iawn yn enwedig os ydych chi’n rhoi sglodion siocled ynddyn nhw hefyd.
Cytuno – ond beth am brownies zucchini a siocled.
Beth ar y ddaear yw “zucchini”?
Courgette.
Pam na faset ti'n dweud "courgette" te?
Dw i’n hoffi’r enw “zucchini”. Ta waeth, rwyt ti’n defnyddio zucchini – courgette neu gorbwmpen – yn y rysáit yn lle olew neu fenyn. Felly, mae’n llawer iachach.
Dw i ddim yn siwr …
Fydda i ddim yn dod i’r parti os wyt ti’n mynd i wneud cacen courgette.
Ond mae’n flasus tu hwnt. A dyma syniad blasus – hawdd ac iach. Banana split efo iogwrt yn lle hufen iâ, ffrwythau ffres ac, os oes rhaid, ychydig – a dw i’n pwysleisio ychydig eto – o siocled.
Gallet ti wneud bananas siocled hefyd. Torra’r bananas yn ddarnau tua 2 cm. Gorchuddia nhw â siocled. Rho ffon coctel ym mhob un a rhewa nhw. Grêt – a galli di eu paratoi nhw o flaen llaw.
Gwych! Diolch am syniadau diddorol. Nawr, yr adloniant a’r addurniadau …
O, rhaid i fi fynd ...
A fi – mae’r gwaith cartref yn galw!?!?!
Rhaid i fi fynd i olchi ‘ngwallt. Hwyl fawr.
Ond ...
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
llanast | annibendod | mess |