Darllenwch y sgyrsiau hyn gyda phartner.

 

Meddygfa 1

   
Doctor: Bore da. Sut dach chi heddiw?
Claf: ’Symol, Doctor. ’Symol iawn!
Doctor: O, be ’dy’r mater?
Claf: Peswch cas. Dw i’n methu cysgu’r nos yn pesychu.
Doctor: O diar! Wnewch chi besychu rŵan i mi gael clywed pa fath o beswch sy gynnoch chi?
  (Mae’n peswch … yn peswch … ac yn peswch!)
Doctor: O, mi wela i.
Claf: Be’ dach chi’n weld?
Doctor: Y broblem … Mae gynnoch chi beswch cas.
Claf: Dyna ddudes i ar y dechra yntê?
Doctor: Ia, wir. Wel, dim angen poeni. Mae gen i’r ateb i’ch problem chi.
Claf: O?
Doctor: Siocled!
Claf: Pardwn?
Doctor: Siocled!  Mae’n ffordd wych o leddfu peswch. O safbwynt methu cysgu yn y nos, yfwch ddiod o siocled poeth cyn mynd i’r gwely.  Mi fyddwch chi’n cysgu fel babi wedyn.
Claf: Siocled. Dyna fo?!?
Doctor: Ia, am y tro. Hwyl fawr i chi.
Claf: Hwyl!
  (Mae’n peswch yn gas wrth fynd allan. Mae’r doctor yn agor drôr yn ei ddesg ac yn torri stribed o siocled o far mawr sy’n cuddio yno.)
Doctor: Aa! Does dim byd fel siocled. Reit, y claf nesaf …

 

Meddygfa 2

   
Doctor: Bore da. Siwt mae heddi?
Claf: Ddim yn dda.
Doctor: O, beth sy’n bod?
Claf: Dw i wedi blino’n ofnadwy a dw i’n becso hefyd.
Doctor: Pam?
Claf: Mae llawer o waith ’da fi ar hyn o bryd a dw i’n becso am hyn.
Doctor: Odych chi’n cysgu?
Claf: Ddim yn dda iawn.
Doctor: Wel, rhaid i chi ymlacio mwy.
Claf: Haws dweud na gwneud.
Doctor: Odi, mae’n siwr …  ond mae’r ateb ’da fi. Siocled!
Claf: Pardwn?
Doctor: Siocled!  Mae’n grêt ar gyfer helpu rhywun i ymlacio ac mae’n helpu i ryddhau endorphins yn yr ymennydd hefyd.
Claf: “Endo” beth?
Doctor: Endorphins – cemegau yn y corff sy’n lleihau stres ac sy’n gallu gwneud i chi deimlo’n dda.
Claf: Siocled. Dyna i gyd?!?
Doctor: Ie, am y tro. Hwyl fawr i chi.
Claf: Hwyl!
  (Mae’r doctor yn agor drôr yn ei ddesg ac yn torri stribed o siocled o far mawr sy’n cwato yno.)
Doctor: Aa! Does dim byd fel siocled. Reit, y claf nesaf …

 

Meddygfa 3

   
Doctor: Bore da. Sut mae?
Claf: Iawn, diolch.
Doctor: “Iawn?” Wel pam rydych chi yma os ydych chi’n “iawn”?
Claf: Wel, dw i ddim yn sâl, ond edrychwch ar fy wyneb i.
  (Mae’n pwyntio at ei wyneb lle mae cannoedd o smotiau.)
Doctor: O ie, dw i’n gweld.  Ydych chi’n bwyta’n iach?
Claf: Ar y cyfan, ydw, ond mae Mam yn dweud fy mod i’n bwyta gormod o siocled ac mai hyn sy’n rhoi’r smotiau ofnadwy i mi.
Doctor: Wel, mae gormod o siocled yn ddrwg i chi, wrth gwrs – yn enwedig siocled llaeth, ond dw i ddim mor siwr ydy siocled yn rhoi smotiau i chi.
Claf: O?
Doctor: Wel, dydy gwyddonwyr ddim yn gallu cytuno ydy siocled yn rhoi smotiau i chi neu beidio.
Claf: Wel, diolch am hynny! Galla i fwyta bar o siocled bob dydd felly.
Doctor: Mmm … na allwch! Mae pethau eraill mewn siocled – nid jyst coco – pethau fel braster a siwgr ac mae bwyta gormod o’r rhain yn ddrwg i chi.
Claf: Ond roeddwn i’n meddwl bod bwyta siocled yn gallu bod yn dda i chi.
Doctor: Yn sicr, mae’n gallu helpu mewn rhai achosion. Mae gwyddonwyr yn meddwl bod siocled yn gallu helpu i leihau’r risg o gael strôc, mae’n gallu helpu person i deimlo’n fwy effro, mae’n gallu helpu pobl i ymlacio ac mae’n gallu helpu i leddfu peswch, ond dydy bwyta gormod o siocled ddim yn dda i chi. Rhaid i chi drin siocled fel trît i’w fwyta bob hyn a hyn, nid fel rhan arferol o’ch diet pob dydd – ac mae siocled tywyll yn well i chi na siocled golau.
Claf: O, dw i’n gweld. A beth am yr acne?
Doctor: Bwyd iach … awyr iach … digon o ymarfer … a dyma bresgripsiwn i chi hefyd. Os nad yw’n gwella, dewch yn ôl mewn tri mis.
Claf: Diolch yn fawr. Hwyl fawr i chi!
Doctor: Hwyl!
  (Mae’n mynd allan. Mae’r doctor yn agor drôr yn ei ddesg ac yn edrych ar far mawr o siocled sydd yno – heb ei ddechrau.)
Doctor: Siocled – mae’n iawn o’i fwyta’n gymedrol! Reit, y claf nesaf …

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
lleddfu tawelu, gwanhau (to) ease
o safbwynt mewn perthynas â, edrych ar rywbeth o gyfeiriad arbennig point of view
haws dweud na gwneud mae'n haws siarad am rhywbeth na'i wneud easier said than done
ar y cyfan gan fwyaf on the whole
cymedrol heb fod yn ormodol in moderation