Dim ond eiliadau mae’n cymryd i lyncu darn o siocled, ond mae cynhyrchu siocled yn cymryd amser hir.

I ddechrau …

  • … mae siocled yn cael ei wneud o ffa arbennig. Mae’r ffa’n tyfu ar goeden drofannol o’r enw Theobroma cacao. Enw arall yw’r goeden coco.
  • Mae’r ffrwythau’n tyfu’n syth o’r canghennau, fel rydych chi’n gallu gweld o’r llun hwn.

Ar y chwith mae'r ffrwyth anaeddfed. Ar y dde mae'r ffrwyth sydd bron yn aeddfed.

  • Pan fydd y ffrwythau’n aeddfed, mae’r ffermwyr yn eu casglu nhw. Fel arfer, maen nhw’n defnyddio machete i’w torri o’r coed.

  • Ar ôl eu casglu, maen nhw’n agor y ffrwythau â llaw, a’r tu mewn iddyn nhw, mae pwlp gwyn sy’n cynnwys tua 30-40 o ffa. Mae’r rhain yn chwerw iawn. Dydyn nhw ddim yn flasus fel y siocled byddan nhw’n ei greu.

Y ffa coco - y tu mewn i'r ffrwyth.

Yna …

… mae’r ffermwyr yn eplesu’r ffa. Maen nhw’n gosod y ffa mewn biniau arbennig neu maen nhw’n eu rhoi nhw o dan ddail banana i’w heplesu. Yn ystod y broses, mae’r ffa’n troi’n llai chwerw.

  • Ar ôl cael eu heplesu, mae’r ffa’n cael eu sychu yn yr haul am ddyddiau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r blas yn dal i ddatblygu.
  • Mae’r ffa’n cael eu cludo i ffatri wedyn.

Yno …

  • … mae’r ffa’n cael eu glanhau. Rhaid gwneud yn siwr nad oes brigau neu gerrig neu unrhyw sbwriel arall yng nghanol y ffa!

Yn dilyn hyn …

  • … mae’r ffa’n cael eu rhostio. Mae’r blas yn gwella yn ystod y broses ac maen nhw’n troi’n dywyllach.

Nesaf …

  • … rhaid cracio’r ffa a chael gwared ar y plisgyn ar y tu allan. Ar ôl gwneud hyn, mae’r ffa yn ddarnau bach. Mae’r rhain yn flasus ond maen nhw’n dal yn chwerw.

Y camau nesaf …

  • … rhaid malu’r darnau bach yn bâst ac yna rhaid ychwanegu pethau fel siwgr, menyn coco, llaeth neu fanila. Bydd hyn yn dibynnu ar y rysáit.
  • Gan nad yw’r siocled yn llyfn yn ystod y cam hwn, rhaid ei roi drwy beiriant arbennig sy’n ei droi a’i gymysgu.

Yna,

  • … mae’r siocled yn cael ei oeri … yna’i boethi … yna’i oeri … yna’i boethi … ac yn y blaen nes ei fod yn llyfn ac yn edrych yn dda.

Yn olaf …

Mae’r siocled yn cael ei roi mewn i fowld a’i oeri. Yna, pan fydd yn barod, mae’n cael ei dynnu o’r mowld ac, ar ôl ei becynnu, mae’n cael ei werthu i bobl fel chi!

Ydy, mae’n broses hir.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trofannol yn tyfu yn y trofannau tropical
canghennau lluosog cangen; rhannau o'r goeden sy'n tyfu o'r boncyff branches
anaeddfed ddim yn barod i'w tynnu unripe
aeddfed yn barod i'w tynnu ripe
chwerw heb fod yn felys bitter
eplesu proses lle mae bacteria a burum yn creu newidiadau cemegol yn ffa coco, sy'n gwella'r arogl a'r blas (to) ferment
brigau lluosog brigyn; canghennau bach sy'n tyfu o'r prif ganghennau twigs
cael gwared â gwaredu rhywbeth (to) get rid of
malu gwneud yn ddarnau mân iawn (to) grind